Pasiantau yng Nghymru

Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif daeth yn arfer poblogaidd i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig ail-greu digwyddiadau hanesyddol lleol a chenedlaethol yn theatrig. Ym 1922, llwyfannwyd pasiant uchelgeisiol yng Nghastell Harlech lle roedd pobl leol yn perfformio golygfeydd o hanes Cymru. Roedd y carnifal blynyddol hefyd yn ganolbwynt llawer o gymunedau lleol. Crëwyd gwisgoedd cywrain i'r rhai a oedd yn cymryd rhan eu gwisgo mewn gorymdeithiau drwy bentrefi a threfi.