Castell Caerdydd

Roedd John Ward (1856-1922) yn Guradur Amgueddfa Drefol Caerdydd, ac yn fuan ar ôl sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru, daeth yn Geidwadyr Adran Archaeoleg. Gwnaeth gryn dipyn o waith cloddio yng Nghastell Caerdydd yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, gan ddatgelu rhai o olion y gaer Rufeinig a fu ar y safle cyn hynny. Mae ffotograffau o’r cloddfeydd hyn yng nghasgliadau Archaeolegol yr Amgueddfa, ynghyd â rhai lluniau o du allan a thu mewn y Castell a dynnwyd ar droad y ganrif.