Gwaith Cloddio ym Mryngaer Llanmelin, 1930au

Heneb restredig yng ngofal Cadw yw Llanmelin. Mae maint Llanmelin, ei sefyllfa strategol yn edrych dros y gwastatir arfordirol a pha mor agos ydyw at Gaerwent, yn ogystal â’r hyn sy’n ymddangos fel ei dranc adeg y Goresgyniad Rhufeinig, yn awgrymu y gallai fod yn rhagflaenydd brodorol o’r Oes Haearn i’r dref Rufeinig yng Nghaerwent. Bu V. E. Nash-Williams, un o Geidwaid Archaeoleg cynnar Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn gwneud gwaith cloddio ar y safle, sydd i’w weld yn y printiau a gaiff eu dangos yma, rhwng 1930 a 1933. Yn fwy diweddar na hynny, mae Cadw wedi bod yn cloddio o’r newydd ar y safle, gyda phobl leol a grwpiau cymunedol eraill fel rhan o Brosiect Cymunedol Llanmelin.