Ffotograffau gan Syr Thomas Mansel Franklen (1840-1928)

Roedd Syr Thomas Mansel Franklen yn nai i Syr Christopher Rice Mansel Talbot a oedd, fel cyfaill agos i John Dillwyn Llewelyn, yn rhan o’r cylch bach o ffotograffwyr amatur brwdfrydig yng Nghymru yn y 1850au. Parhaodd y traddodiad teuluol hwn drwy Thomas Mansel Franklen, ac roedd yn ffotograffydd amatur prysur a dawnus. Cyflwynodd lawer o’r printiau ffotograffig i Arolwg Ffotograffig o Forgannwg, a gychwynnwyd gan Franklen a John Ballinger o Lyfrgell Caerdydd ym 1891. Mae’r arolwg hwn yn enghraifft gynnar o brojectau niferus tebyg ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ac mae’n gofnod ffotograffig o leoliadau pwysig ym mhob cwr o Sir Forgannwg. Erbyn hyn, mae’r gyfres lawn o gyfrolau’r Arolwg hwn yn cael eu cadw yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd.