Ffotograffiaeth Hanesyddol
Gwaith dur Dowlais-Caerdydd (East Moors), Caerdydd, 1890au
Adeiladwyd Gwaith Dur Dowlais gan Gwmni Dur Dowlais o Ferthyr Tudful ac fe’i agorwyd fesul cam rhwng 1891 a 1895. Fe’i hadeiladwyd ar dir pori heb ei ddatblygu o’r enw East Moors Caerdydd ac roedd yn agos at Ddociau Caerdydd lle y mewnforiwyd mwyn haearn. Disodlodd Waith Dowlais, sef y gwaith dur gwreiddiol, a gaeodd ym 1930. Ar ôl yr ail ryfel byd cafodd ei ailenwi’n Waith East Moors, a dyna fu ei enw tan iddo gau ym 1978.
Mae’r lluniau’n cofnodi camau adeiladu’r Gwaith ac ymddengys eu bod yn rhan o’r hyn a fu unwaith yn gasgliad ehangach. Mae’n cynnwys llawer o olygfeydd dramatig o ffwrneisi chwyth aruthrol o dal.
43 Itemau.
Tudalen o 8
Nesaf