Hotel de Marl (Rhwng Ferry Road ac Afon Taf), Caerdydd, 1893.

Roedd Hotel de Marl yn gynllun a ddyfeisiwyd gan ddynion lleol yn Grangetown, Caerdydd, i osgoi Deddf Cau ar y Sul 1881. Talwyd am gwrw drwy daflu arian ar ddalen o bapur newydd, fel y gwelir yma, er mwyn gallu prynu rhagor o farilannau (casgenni bach) a'u dosbarthu i byllau yfed Hotel de Marl. 'Another two D will do it' yw'r capsiwn ar y llun, sy'n cyfeirio at yr elw sydd ei angen i brynu barilan arall. Dau 'D' yw dwy geiniog mewn sterling cyn cyflwyno'r system ddegol. Tynnwyd y ffotograff hwn ddydd Sul 28 Mai 1893.

Object Information:

Original Creator (External): William Booth
Exact Place Name: Caerdydd
Other Numbers: 7206
Keywords: dynion yfed