Hotel de Marl (Rhwng Ferry Road ac Afon Taf), Caerdydd, 1893.

Sefydlwyd Hotel de Marl mewn rhan o Grangetown, Caerdydd, gan ddynion lleol yn ceisio osgoi Deddf Cau ar y Sul, a oedd yn gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai yng Nghymru. Cyfres o byllau wedi'u cloddio i'r ddaear oedd y 'gwesty' mewn gwirionedd er mwyn i ddynion gyfarfod ac yfed ar y Sul. Ystyriwyd bod y pyllau hyn yn gyfreithlon ar ôl i achos llys ddyfarnu eu bod yn fath o 'glwb dynion' cyntefig, felly caniatawyd yfed yn y mathau hyn o glwb. Yma y capsiwn ar y llun yw, 'In Full Swig', gan fod y dynion wrthi'n brysur yn yfed. Tynnwyd y ffotograff hwn ddydd Sul 28 Mai 1893.

Object Information:

Original Creator (External): William Booth
Exact Place Name: Caerdydd
Other Numbers: 7207
Keywords: dynion yfed