Carreg gerfiedig ar laswellt ym mynwent Eglwys Sant Rhidian a Sant Illtud, Llanrhidian

Mae'r garreg galch enfawr hon yn deillio o'r 9fed - 10fed ganrif fwy na thebyg a sylwyd arni gyntaf yn y fynwent yn y 19eg ganrif lle y tynnwyd y llun. Mae bellach yng nghyntedd Eglwys y Plwyf. Yn draddodiadol fe'i galwyd yn garreg y gwahanglwyfus gan y credwyd ei bod yn gwella pobl a oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf a fyddai'n rhwbio yn ei herbyn. Dywedwyd bod eistedd arni yn gwella cur pen/pen tost. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 218 / Redknap a Lewis (2007) G59

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Llanrhidian
Other Numbers: 37119/80
Keywords: carreg