Tai Crwn Bryn Eryr o Oes yr Haearn

Pa fath o adeilad yw Bryn Eryr?

Mae Bryn Eryr yn ail-greuad o fferm o'r Oes Haearn. Yn ystod yr Oes Efydd, a'r Oes Haearn, tai crwn oedd y math mwyaf cyffredin o gartref. Fan hyn roedd nifer fach o dai crwn yn eistedd o fewn clostir amddiffynol. Mae Bryn Eryr yn seiliedig ar olion archeolegol a gloddiwyd ger Llansadwrn ar Ynys Môn.

Mae Bryn Eryr yn ail-greuad arbrofol, a gan fod y pâr gwreiddiol o dai crwn mor agos at ei gilydd, mae'n bur debygol roeddent yn ffurfio un adeilad gyda dwy ystafell. Weithiau gelwir yr adeiladau hyn yn dai siap ffigur wyth' neu yn 'dai crwn cydgysylltiedig' ac ond yn ddiweddar cafon eu nodi. O ganlyniad, ychydig iawn o ail-greadau sydd wedi cael eu ceisio. Ar ben hynny, mae gan dai crwn Bryn Eryr waliau o glai 1.8m o drwch – a dyma’r enghraifft gyntaf o’r fath I gael ei ail-greu.

Tyfwyd a chynaeafwyd gwenith spelt yn Sain Ffagan i doi Bryn Eryr.

Ble oedd Bryn Eryr yn wreiddiol?

Roedd Bryn Eryr yn fferm fechan o’r Oes Haearn yn nwyrain Ynys Môn, ger Llansadwrn.

Tu mewn i'r tŷ lleiaf

Pwy oedd yn byw ym Mryn Eryr?

Roedd Bryn Eryr yn gartref i deulu amaethyddol llewyrchus. Mae’r dystiolaeth archaeolegol yn dangos llanw a thrai eu cyfoeth dros genedlaethau. eu llwyddiant. Cafodd y tŷ crwn cyntaf, gyda wal pren o’i amgylch, ei adeiladu tua chanol yr Oes Haearn. Ychwanegwyd yr ail dŷ yn fuan cyn cyfnod y Rhufeiniaid. Amgeuwyd y ddau gan glawdd a ffos fwy parhaol ar siâp petryal.

Y cyfnod hwn o'u hanes sy'n cael ei ail-greu yma. Roedd trigolion Bryn Eryr yn mwynhau bywyd cymharol esmwyth a diogel. Roedden nhw'n tyfu gwenith ac yn cadw gwartheg, defaid a cheffylau. Yn ddiweddarach fyth, er bod y cloddiau'n erydu a'r ffos yn siltio, adeiladwyd trydydd tŷ ar sylfeini cerrig.

Pa mor hen yw Bryn Eryr?

Agorwyd yr ailgreuad yma i'r cyhoedd yn 2016. Bu pobl yn defnyddio y safle gwreiddiol yn Llansadwrn, Ynys Môn rhwng 400 CC a 300 OC.

Ffeithiau adeilad

  • Sail yr ailgreuad: Gwaith cloddio archaeolegol ym Mryn Eryr, Ynys Môn
  • Dyddiad yr adeiladau gwreiddiol: tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl
Gwybodaeth ymweld