Castell Sain Ffagan
57
58
59

**Dim ond nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar y llawr gwaelod sydd ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.**
Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd 1 ac yn un o'r enghreifftiau gorau o faenordy Elisabethaidd yng Nghymru, er bod llawer o'r tu mewn wedi'i ailwampio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1946, rhoddodd Iarll Plymouth y Castell a deunaw erw o dir i Amgueddfa Genedlaethol Cymru i fod yn safle ar gyfer amgueddfa genedlaethol awyr agored.

Dechreuodd cyfreithiwr lleol o'r enw Dr John Gibbon ar y gwaith o godi'r tŷ presennol ym 1580 ond mae'n bosib na fu byth yn byw yma. Prynwyd y tŷ a'r ystâd ym 1616 gan Edward Lewis, y Fan, Caerffili, ac Edward a'i wraig Blanche a gwblhaodd lawer o ffitiadau mewnol yr adeilad ym 1620. Mae llythrennau blaen eu henwau, EBL, a'r dyddiad, 1620, i'w gweld ar baneli ac ar dalpentanau yn yr adeilad. Priodwyd eu haeres, Elizabeth, ag Other, 3ydd Iarll Plymouth ym 1730, ac etifeddodd eu mab bychan yr ystâd ym 1736.

Cafodd y tŷ ei rentu i wahanol denantiaid yn y 18fed ganrif ac, yn ddiweddarach, bu pobl leol yn ei ddefnyddio dros dro, yn cynnwys yr ysgolfeistr lleol a oedd yn cadw ysgol yn y parlwr.

Ym 1850, cychwynnwyd ar gynllun ailwampio enfawr er mwyn darparu cartref ar gyfer aer ystâd Plymouth, Robert Windsor-Clive a'i wraig newydd. Priodwyd nhw ym 1852 ond dim ond am gyfnod byr y buont yn byw yn Sain Ffagan gan iddo ef farw'n ifanc. Ni fu teulu'n byw y tu mewn i furiau Sain Ffagan tan yn nes at ddiwedd y ganrif. O ganol y 1880au, bu'r Arglwydd Robert Windsor, a fyddai'n dod yn Iarll Plymouth, yn treulio rhan o bob haf yn Sain Ffagan gyda'i wraig, eu tri mab a'u merch, a llu o wahoddedigion. Dodrefnwyd yr ystafelloedd i adlewyrchu bywydau'r teulu oedd yn byw yno ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Sain Ffagan, Morgannwg
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1590
- Dodrefnwyd: Dechrau'r 20fed ganrif
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1946
- Statws rhestredig: Gradd 1
- Gwybodaeth ymweld