Ffermdy Cilewent

Pa fath o adeilad yw Cilewent?

Tŷ hir yw Cilewent, lle byddai pobl ac anifeiliaid yn byw o dan yr un to.

Roedd y math hwn o dŷ yn gyffredin yng nghanolbarth a de Cymru.

Cafodd ei godi yn wreiddiol yn Llansanffraid Cwmteuddwr, ger Rhaeadr Gwy, Powys.

Pryd gafodd Cilewent ei adeiladu?

Cafodd y ffermdy ei adeiladu ym 1470. Tŷ pren oedd Cilewent yn wreiddiol, ond cafodd ei ail-godi gyda cherrig ym 1734, pan adeiladwyd estyniad hefyd.

Mae’r dyddiad hwn wedi’i gerfio uwchben y drws.Gallwch ei weld yn y llun hwn o’r teulu Jones oedd yn byw yno ym 1899.

Mae ar y chwith uwchben y drws.


Pa fath o anifeiliaid oedd yn byw yn Cilewent?

Câi gwartheg a cheffylau eu cadw mewn corau yn ochr chwith yr adeilad.

Lle’r oedd y bobl yn byw?

Roedd y bobl yn byw ar y dde, mewn dwy ystafell - yr ystafell fyw, a’r llaethdy yn y cefn.

Roedd un drws canolog yng nghanol y tŷ ar gyfer pobl ac anifeiliaid.

Byddai gwas fferm yn cysgu yn y daflod uwchben yr anifeiliaid, yn manteisio ar eu gwres.


Edrychwch ar y llun hwn a dychmygwch fyw yn Cilewent! Fel y gwelwch, roedd y tŷ mewn lle agored ac unig iawn, felly byddai cadw’n gynnes yn un o’r prif flaenoriaethau.

Dyma pam bod y lle tân yn yr ystafell fyw mor fawr - roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer coginio a chynhesu’r ystafell. Dyma lun o’r lle tân yn yr ystafell fyw.


Ar y chwith wrth gefn y lle tân mae’r ‘uffern’ - twll lludw bach, fyddai â gril uwch ei ben yn wreiddiol.

Os oedd iâr yn sâl, byddai’n cael ei chadw yno er mwyn gwella, gan ei bod yn gynnes a chlyd yno.

Dyma lle daw’r dywediad ‘Y cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn fod.’

Ar ôl arfer bod mewn lle cynnes, braf, byddai’n anodd i gyw bach fynd yn ôl i’r byd mawr tu allan!

Roedd y bobl olaf i fyw yma - a symudodd allan yn y 1950au - yn gwisgo’u cotiau tu mewn yn y gaeaf.

Câi’r tŷ ei oleuo gan gannwyll frwyn, wedi’i osod mewn canhwyllbren fel yn y llun isod.

Câi brwynen ei trochi mewn braster, ei chynnau, a’i gosod rhwng dau ddarn o haearn ar dop y canhwyllbren.


Yng nghefn y tŷ mae llaethdy mawr lle byddai’r teulu yn corddi menyn a gwneud caws.

Yn y llaethdy mae gwasg gaws sydd wedi’i dylunio i edrych fel dodrefnyn.

Beth oedd y teulu yn ei fwyta?

Roedd y teulu yn byw ar ddiet o laeth a cheirch.

Pryd gafodd Cilewent ei symud i’r Amgueddfa?

Cafodd Cilewent ei gynnig i’r Amgueddfa ym 1955 gan ei fod ar safle argae arfaethedig yn Nyffryn Claerwen.

Ni chodwyd yr argae, ac adeiladwyd byngalo ar safle’r ffermdy.

Cafodd Cilewent ei ail-godi yn yr Amgueddfa ym 1959.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Dyffryn Claerwen, Powys (Radnorshire)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1470 & 1734
  • Dodrefnwyd: 1750
  • Symudwyd i Sain Ffagan: 1959
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld