Cofeb Ryfel Trecelyn

Pam fod gennym ni gofebau rhyfel?

Mae cofebau rhyfel yn talu teyrnged i bobl sydd wedi marw mewn rhyfeloedd, gan gynnwys y ddau ryfel byd. Maen nhw’n arbennig o bwysig i bobl sydd wedi colli anwyliaid, ond sydd heb fedd i ymweld ag ef. Mae cofebau rhyfel yn amrywio o blaciau bach i gofgolofnau a cherfluniau mawr, a sgwariau a gerddi cyfan hyd yn oed.

O lle daw’r gofeb ryfel sydd yn Sain Ffagan?

Dyma Gofeb Ryfel Trecelyn o Barc Caetwmpyn, Trecelyn, Caerffili. Mae’n coffáu 79 o filwyr lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) a 37 o ddynion a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd (1939-45). Mae’r enwau i’w gweld ar blac efydd ar ochr y gofeb.

Math o gofeb ryfel yw senotaff sy’n coffáu pobl sydd wedi’u claddu yn rhywle arall.

Beth yw ystyr y gair senotaff?

Daw’r gair senotaff o iaith Groeg, ac mae’n golygu ‘bedd gwag’.

Mae cofeb ryfel yn coffáu digwyddiad – dau ryfel byd yn achos y gofeb yn Sain Ffagan.

Ar Sul y Cofio caiff gwasanaethau arbennig eu cynnal ar hyd a lled Cymru a gweddill Prydain, gan gynnwys un yn yr Amgueddfa. Caiff torchau o flodau pabi coch eu gosod o flaen y gofeb i goffáu pawb a fu farw yn y ddau Ryfel Byd.

Pam ein bod yn cysylltu’r pabi â gwasanaethau coffa?

Yn ystod rhyfeloedd Napoleon ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd pabi coch yn tyfu ar faes y gad.

Roedd y pabi hefyd yn un o’r unig blanhigion oedd yn tyfu ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ysgrifennodd y meddyg o Ganada, John McCrae (1872–1918) gerdd o’r enw ‘In Flanders Fields’, i goffáu’r holl filwyr a fu farw. Daeth yn symbol o ryfeloedd diweddarach gan gynnwys yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel y Falklands.

Erbyn hyn mae’r pabi’n cael ei ddefnyddio fel symbol i goffáu pawb a fu farw mewn rhyfeloedd.

Nodweddion diddorol

Pan gafodd Cofeb Ryfel Trecelyn ei dymchwel er mwyn ei symud, cafwyd hyd i botel gwrw tu mewn i’r gofeb yn cynnwys enwau’r adeiladwyr gwreiddiol. Pan gafodd y gofeb ei hailadeiladu yn yr Amgueddfa, rhoddodd y crefftwyr botel o gwrw Brains y tu mewn, yn ogystal â photel arall gydag enwau’r adeiladwyr wedi’u hysgrifennu ar ddarn o bapur.

Un o enwau mwyaf adnabyddus y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yw Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans i roi ei enw iawn. Bardd a bugail o Drawsfynydd oedd Hedd Wyn. Byddai’n ysgrifennu ei gerddi wrth wylio’r defaid ar fferm ei deulu. Cafodd ei ladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw cyn cael clywed iddo ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 am ei awdl, ‘Yr Arwr’. Mae’r ‘Gadair Ddu’ i’w gweld yng nghartref Hedd Wyn, yr Ysgwrn, sydd bellach yn amgueddfa.

Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders

Mae nifer o gofebau rhyfel enwog eraill yn coffáu pobl a fu farw mewn rhyfeloedd dros y byd. Dyma Gât Menin yn Ypres, Gwlad Belg. Mae’n coffáu milwyr Prydain a’r Gymanwlad a fu farw ym mrwydrau Ypres, a’u claddu heb garreg fedd. Mae miloedd o enwau ar y gofeb, fel mae’r llun isod yn ddangos.

Mae’r gofeb yn gysur i deuluoedd milwyr na chawsant eu darganfod. Fel y dywedodd y Cadlywydd Plumer wrth agor y gofeb ym 1927 – ‘dydyn nhw ddim ar goll, maen nhw yma’.

I ddysgu mwy am sut mae Amgueddfa Cymru yn adrodd hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru drwy gyfrwng ei chasgliadau, cliciwch isod.

Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Cliciwch yma i ymweld â'r wefan Cofeb Ryfel Newbridge.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Parc Caetwmpyn, Trecelyn (Sir Fynwy)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1936
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1995
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1996

Gwybodaeth ymweld