Efail Llawr-y-glyn

Adeilad carreg syml, unllawr, gydag ardal bedoli, yr efail ei hunan a stabl a ddefnyddid yn wreiddiol ar gyfer ceffylau oedd yn disgwyl eu pedoli. Yn ddiweddarach, cafodd hwn ei addasu'n daflod ar gyfer storio haearn. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r efail ym 1963 ac fe'i symudwyd i'r Amgueddfa ym mis Medi 1970.

Tan ganol yr 20fed ganrif, roedd pob cymuned wledig yn dibynnu'n fawr ar efail y gof. Yma, roedd ceffylau'n cael eu pedoli, offer ar gyfer y tŷ'n cael eu gwneud a'u trwsio, cylchoedd metal yn cael eu gosod ar olwynion ceirt, a nifer o dasgau eraill. Yn aml, byddai'r efail yn datblygu'n ganolfan diwydiant gwledig gan wneud erydr a pheiriannau eraill ar gyfer y fferm, offer ar gyfer y tŷ a'r ardd, hoelion ac ati. Yn ogystal, roedd yr efail yn ganolfan gymdeithasol bwysig lle byddai pobl yr ardal yn cyfarfod ac yn sgwrsio.

Rhif yr Eitem

F73.23.1

Derbyniad

Donation

Original Location

Llawr-y-glyn, Trefeglwys, Powys (Sir Drefaldwyn)

Original Construction

Late 18th century

Moved to St Fagans

1970

Opened to the Public

1972

Oriel