Ffermdy Garreg Fawr

Codwyd ffermdy'r Garreg Fawr ym 1544 yn gartref i ffermwr cyfoethog a'i enwi ar ôl carreg frig y tu ôl i'r tŷ. Mae'n adeilad solet, wedi'i godi o ddarnau mawr o lechfaen a cherrig mawr o'r mynydd. Ceir dau bâr o gyplau derw cadarn i ddal y to llechi. Does dim gwydr yn y ffenestri ond mae modd cau'r caeadau derw i gadw'r gwynt a'r oerfel allan.

Mae'n debyg bod y simneiau tal yn cael eu cyfrif yn arwydd o statws yn yr unfed ganrif ar bymtheg pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn gorfod goddef tân yng nghanol y llawr, dim simdde a thŷ'n llawn mwg. Roedd bwydydd yn cael eu cadw yn y pantri y tu ôl i'r pared derw ac yna'n cael eu coginio ar dân agored yn y neuadd fawr.

Mae'r dodrefn tua chanrif yn ddiweddarach na'r tŷ. Y neuadd yw prif ystafell y llawr isaf ac mae lle tân mawr yn un pen. Mae dau ddrws allanol gyferbyn â'i gilydd yn agor i gefn y neuadd lle mae pared pyst a phaneli yn cuddio pantri a bwtri. Mae dwy ystafell i fyny'r grisiau, un â lle tân yn y pen gyferbyn â'r lle tân isod: byddai hwnnw'n lle diogel i gadw cynnyrch y fferm hefyd. Symudwyd y tŷ i Sain Ffagan ym 1976.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Waunfawr, Gwynedd (Sir Gaernarfon)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1544
  • Dodrefnwyd: tua 1650
  • Datgymalwyd: 1976
  • Ail-godwyd yn Sain Ffagan: 1982
  • Gwybodaeth ymweld