Gweithdy’r Cyfrwywr
Adeiladwyd y gweithdy syml hwn, a'i ddwy ystafell, gan Alfred James ym 1926. Ef oedd y drydedd genhedlaeth o'i deulu i fod yn gyfrwywr. Ffrâm bren sydd i'r adeilad ac mae'r waliau allanol a'r to wedi'u gwneud o sinc. Roedd y siop yn y brif ystafell ac roedd gweithdy bychan yn y cefn. Cafodd ei symud i Sain Ffagan ym 1985. Roedd angen prentisiaeth faith i ddysgu crefft cyfrwywr er mwyn meistroli llawer o wahanol ddarnau o offer, meithrin medrusrwydd a chael profiad helaeth. Roedd tair cangen arbenigol i'r grefft sef gwneud harneisi, gwneud coleri a gwneud cyfrwyau. Y diweddar Fred James oedd yr aelod olaf o'r teulu i ymarfer y grefft. Roedd llai o alw am daclau ceffylau erbyn hynny ac roedd ef yn trwsio esgidiau hefyd. Daeth y gweithdy yn y cefn yn fan cyfarfod poblogaidd i lawer o'r cwsmeriaid.
Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Penpitch, San Cler, Sir Gaerfyrddin
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1926
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1985
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1986
- Gwybodaeth ymweld