Hafdy
Mae'r hafdy bach hwn yn dod o dir Castell Caerdydd. Tua 1880, roedd Trydydd Ardalydd Bute, a oedd yn eithriadol o gyfoethog, wrthi'n gweithio ar raglen adeiladu enfawr yng Nghaerdydd. Trefnodd i'r pensaer athrylithgar, William Burges, adfer Castell Coch a Chastell Caerdydd a oedd wedi dechrau dadfeilio, a'u troi'n ffoleddau addurniadol unigryw. Mae manylion pensaernïol yr adeilad hwn yn awgrymu efallai mai Burges ei hunan neu ei gynorthwyydd William Frame a'i dyluniodd. Frame oedd yr un a orffennodd y gwaith ar Gastell Coch ar ôl i Burges farw ym 1881.
Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Parc Bute, Caerdydd
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1880
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1987
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1988