Sgubor Hendre-wen

38

Adeiladwyd yr ysgubor hon gan ddefnyddio nenffyrch, sef coed mawr crwm yn codi o'r llawr i frig y to. Pan godwyd hi gyntaf, tua 1600, waliau ffrâm bren oedd i'r ysgubor ond codwyd waliau cerrig tua 1800.

Roedd gan bron bob fferm ysgubor lle'r oedd yr ŷd yn cael ei gadw a'i ddyrnu dros y gaeaf. Ar ôl ei ddadlwytho trwy'r drysau llydan, roedd yr ŷd yn cael ei ddyrnu â llaw gan ddefnyddio ffust ac yna roedd y tywysennau'n cael eu gwahanu oddi wrth y mân us wrth daflu'r ŷd i fyny yn y drafft a ddôi trwy'r drysau agored.

Hefyd, tua 1800, cafodd y bae unigol gwreiddiol ar y naill ochr i'r llawr dyrnu ei droi'n feudy. Byddai hynny'n digwydd yn aml yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru.

 
Hendrewen Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Hendre Wen, Llanrwst, Gwynedd (Sir Gaernarfon)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1600
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1972/1977
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1982
  • Gwybodaeth ymweld