Ffermdy ac adeiladau Kennixton

Pa fath o adeilad yw Kennixton?

Ffermdy yw Kennixton, ac roedd yn gartref i’r teulu Rogers am ganrifoedd. Yn wreiddiol safai’r fferm ym Mhenrhyn Gŵyr ger Abertawe, ardal sydd wedi’i Seisnigeiddio ers cyfnod y Normaniaid. Tenantiaid oedd y teulu pan adeiladwyd y fferm ym 1610. Erbyn 1809, ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, roeddent yn ddigon cyfoethog i’w phrynu. Mae’r tŷ wedi’i ddodrefnu fel y byddai tua 1800, pan oedd Leyshon Rogers yn byw yno, gyda’i wraig a thri o blant, yn ogystal â morwyn a gwas fferm.

Yn yr iard yng nghefn y tŷ mae cut gwyddau. Roedd y gwyddau yn well nag unrhyw gi gwarchod!

Cafodd yr adeilad ei roi i’r Amgueddfa ym 1952 gan y perchennog, Mr J. B. Rogers.

Pam ei fod wedi’i baentio yn goch?

Mae Kennixton wedi ei baentio yn goch am fod pobl arfer credu bod y lliw yn eu gwarchod rhag dewiniaeth ac ysbrydion drwg. Roedd y pigment gwreiddiol yn cynnwys gwaed ychen a chalch, oedd yn ddrud. Roedd y lliw coch yn arwydd fod trigolion y tŷ yn ddigon cyfoethog i’w fforddio.

Roedd pobl y cyfnod yn ofergoelus iawn - fel ydyn ni heddiw! Faint ohonoch chi sy’n osgoi cerdded o dan ysgol, er enghraifft? Pam ein bod ni’n gwneud hyn? Am ei fod yn torri’r Drindod Sanctaidd - y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Pan fydd rhywun yn tisian, byddwn yn aml yn dweud ‘Bendith!’ - gan mai’r hen gred oedd y gallai’r Diafol feddiannu corff rhywun wrth iddynt disian. Roeddem yn bendithio er mwyn ei hel i ffwrdd.

Roedd cerddinen neu griafolen yn tyfu yng ngardd Kennixton, a’r aeron coch yn ffordd arall i warchod y tŷ rhag ysbrydion drwg. Mae dau ffigwr wedi’u cerfio yn ffrâm y drws, oedd hefyd yn amddiffyn y teulu.

Ychwanegwyd adeiladau newydd i’r fferm gan chweched cenhedlaeth y teulu o gwmpas 1850. Cawsant eu codi wrth ochr y tŷ, a’u rhoi i’r Amgueddfa ar ddechrau’r 2000au. Câi gwartheg eu godro â llaw yn y corau ger y tŷ, ac roedd y grisiau carreg y tu allan yn arwain at lofft stabl. Y sgubor gyfagos oedd adeilad pwysicaf y fferm, gan mai yma y câi cnydau eu storio a’u prosesu: barlys ar gyfer y gwartheg a’r moch, a cheirch ar gyfer y ceffylau. Ar draws yr iard roedd adeilad bychan i fagu lloi.

Wyddech chi?

Roedd gwely cwpwrdd ger y tân yn yr ystafell byw yn beth cyffredin yn nhai Penrhyn Gŵyr. Bu Glyn Rogers, oedd yn byw yn y ffermdy tan 1939, yn cysgu yn y gwely cwpwrdd nes ei fod yn 13. Dywedodd ei fod yn gyffyrddus iawn, gan fod tân cynnes wrth iddo fynd i’w wely, a phan oedd yn codi yn y bore. Doedd dim angen gwres canolog o gwbl!

Mr Rogers yn siarad am ei brofiad o gysgu yn y gwely cwpwrdd

Cafodd yr ystafell fwyta ei defnyddio fel tu mewn i fwthyn Capten Blamey yng nghyfres y BBC, Poldark, yn 2015. Sylwch ar y stensilau ar y waliau, cyn dyddiau papur wal.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llangynydd, Gwyr, Morgannwg
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1610, 1680 & c.1750
  • Dodrefnwyd: 18fed ganrif
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1952
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1955
  • Statws rhestredig: Gradd 2

Gwybodaeth ymweld