Llys Llywelyn – Neuadd Ganoloesol
Mae Llys Llywelyn yn ail-greu un o lysoedd brenhinol Tywysogion Gwynedd a ddefnyddiwyd yn ystod y 13eg ganrif. Seiliwyd y gwaith ar weddillion Llys Rhosyr – adfail yn ne-orllewin Môn a ddatgloddiwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd rhwng 1992 a 1996. I helpu gyda’r ail-greu ymgynghorwyd yn helaeth ag arbenigwyr ar hanes, pensaernïaeth a llenyddiaeth Cymru ac ymchwiliwyd i gestyll a safleoedd crefyddol o’r cyfnod sy’n dal i sefyll ledled Gwynedd. Canlyniad hyn fydd creu copi triw o un o Lysoedd y Tywysogion.
O’r Llys y byddai’r Tywysog yn gweinyddu ei deyrnas yng Nghymru’r Canol Oesoedd. Roedd ugain o Lysoedd o’r fath yng Ngwynedd ei hun – clostir yn cynnwys neuaddau, stablau, cegin, sgubor, tŷ bach a cwt cŵn o fewn i fur cadarn. Nid oes unrhyw weddillion wedi goroesi ond rydyn ni’n gwybod amdanynt diolch i dystiolaeth ysgrifenedig a chloddiadau archaeolegol. Y gwaith cloddio yn Llys Rhosyr ddatgelodd yr adfeilion mwyaf cyflawn a dangosodd arolwg geoffisegol olion y safle i gyd.
Daw’r dystiolaeth gynharaf o gyswllt Brenhinol o 1237 – cofnod yn Brut y Tywysogion yn datgan i Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ardystio rhodd o dir i gymuned Ynys Lannog (Puffin Island neu Priestholm). Mae’r adeiladau’n dyddio, mwy na thebyg, o ddechrau’r 13eg ganrif.
Gyda choncwest Edward I yng ngogledd Cymru a marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd (ein Llyw Olaf) ym 1282, daeth Llys Rhosyr i feddiant y Saeson a pheidio â bod yn ganolfan weinyddol. Ymwelodd Edward I â’r safle ym 1283 a’i roi yn rhodd i’w wraig, Eleanor o Castile. Cafodd Llysoedd gogledd Cymru eu cadw a’u defnyddio tan hanner cyntaf y 14eg ganrif ac mae’r geiniog ddiweddaraf o Llys Rhosyr yn dyddio o 1314.
Y neuadd a’r siambr fechan sydd wedi cael ei hastudio fanylaf, a dyma’r adeiladau mae Sain Ffagan wedi'u ail-greu. Fel atyniad amgueddfa byddant yn helpu ymwelwyr i ddeall bywyd yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Bydd cyfle i ddisgyblion aros dros nos yn yr adeiladau, ac ymgolli ym myd y 13eg ganrif.
Ffeithiau Adeilad:
- Sail yr ailgreuad: Gwaith cloddio archaeolegol yn Rhosyr, Ynys Môn
- Dyddiad yr adeiladau gwreiddiol: 1200 O.C.