Bwthyn Nantwallter
Pa fath o adeilad yw hwn?
Bwthyn gwas fferm yw Nantwallter, a chafodd ei adeiladu tua 1770 yn Nhaliaris, Sir Gaerfyrddin.
Mae waliau’r tŷ’n drwchus, ac roedd hynny’n cadw’r adeilad yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Waliau clom sydd i’r tŷ, sef cymysgedd o glai, mwd, gwellt a cherrig. Byddai’r clom wedi cael ei osod mewn haenau, gan adael i bob haen sychu cyn ychwanegu’r nesaf.
To gwellt sydd i’r bwthyn, sy’n dod allan yn bellach na’r waliau fel y gwelwch yn y llun. Roedd hyn yn galluogi dŵr glaw i lifo ffwrdd yn haws. Allai teulu’r bwthyn ddim fforddio to gwellt cyflawn, felly mae eithin a grug o dan y gwellt.
Mae’r ffenestri yn fach, i warchod y tu mewn rhag y tywydd - oherwydd doedd dim gwydr ynddynt.
Tu mewn
Un ystafell sydd i’r tŷ, ac yma fyddai’r teulu cyfan yn byw. Ar un ochr i’r tŷ roedd pared tenau wedi’i wneud o fangorwaith, sef ffyn wedi’u cydblethu â brigau neu ganghennau. Y tu ôl i’r pared roedd ystafell wely fechan i’r rhieni, tra byddai’r plant yn cysgu yn y llofft fechan uwchben.
Mae dwy nenfforch bren yn rhedeg o’r llawr i fyny ac ar draws y to, ac i lawr yr ochr arall. Mae trawst yn cynnal y ddwy nenfforch, felly maent yn edrych fel dwy lythyren ‘A’ fawr.
Roedd y tŷ yn fyglyd iawn, gan eu bod yn llosgi mawn yn y lle tân. Roedd hwn yn taflu gorchudd o huddygl dros y dodrefn.
Cymerodd dair blynedd i ailgodi’r bwthyn yn yr Amgueddfa, ac agorodd i’r cyhoedd ym 1993.
Pwy oedd yn byw yma?
Y cofnod cyntaf sydd gennym o rywun yn byw yno yw Morgan David Morgan a’i deulu ym 1786. Roedd Morgan yn gweithio i ystâd Plas Taliaris gerllaw, am gyflog pitw. Roedd yn rhentu’r bwthyn gan yr ystâd am ryw £9 y flwyddyn. Mae’r dodrefn o safon wael, fel y byddai dodrefn y rhan fwyaf o weithwyr cyffredin cyn gwelliannau amaethyddol y 19eg ganrif.
Erbyn 1886, roedd Evan a Mary Thomas a’u wyth o blant yn byw yma. Roedd Evan hefyd yn gweithio ar ystâd Taliaris.
Teulu Thomas
Enw’r ferch hynaf oedd Nan (ail o’r dde, yn sefyll yn y cefn). Roedd hi’n ddibriod, ac yn dal i fyw adref. Byddai’n defnyddio’r olwyn nyddu i greu dillad ar gyfer y teulu.
Roedd y teulu yn dibynnu ar y llysiau oedd yn tyfu yn yr ardd. Er eu bod yn dlawd, roedd bwyd ar gael iddynt drwy’r flwyddyn.
Roeddent yn cadw mochyn yn y twlc yn yr ardd. Byddai’n cael ei besgi yn yr haf, a’i ladd yn y gaeaf. Câi’r cig ei halltu er mwyn iddo gadw’n hirach. Câi pledren y mochyn ei dynnu, ei chwythu ag aer, a’i defnyddio fel pêl-droed. Uwchben y twlc mochyn mae colomendy. Câi’r colomennod eu cadw am eu cig a’u wyau.
Wyddech chi?
Mae defnyddio pledren mochyn fel pêl yn dyddio’n ôl i gyfnod y Tuduriaid, pan oeddent yn chwarae ffurf gynnar ar bêl-droed. Yn ddiweddarach câi cnapan, ei ddefnyddio, pêl bren, ychydig yn fwy na phêl griced. Roedd cnapan yn gêm boblogaidd iawn yng ngorllewin Cymru, lle byddai dynion o blwyfi gwahanol yn herio ei gilydd.
Heddiw rydyn ni’n defnyddio’r gair ‘spinster’ yn Saesneg i gyfeirio at fenyw sengl. Roedd yn cyfeirio'n wreiddiol at ferch ddi-briod hynaf y tŷ oedd yn defnyddio'r olwyn nyddu i wneud dillad i weddill y teulu.
Daw’r gair ffenest o’r Lladin ‘fenestra’.
Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Taliaris, Sir Gaerfyrddin
- Dodrefnwyd: Diwedd y 18fed ganrif
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1770
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1990
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1993