Sefydliad y Gweithwyr Oakdale
Beth yw’r adeilad?
Ar un adeg roedd sefydliadau’r gweithwyr, neu’r ‘stiwts’ ar lafar gwlad, yn beth cyffredin yn nhrefi a phentrefi diwydiannol Cymru. Byddai glowyr a gweithwyr eraill yn cynilo arian ar y cyd i godi’r adeiladau sylweddol hyn a oedd yn darparu cyfleusterau addysg a hamdden i’r gweithwyr a’u teuluoedd.
Lle cafodd Stiwt Oakdale ei adeiladu yn wreiddiol?
Daw yr enghraifft hon, o Oakdale, pentref glofaol rhyw 10 milltir i’r gogledd o Gaerffili.
Cafodd y cerrig sylfaen eu gosod ar 3 Gorffennaf 1916 ac ymhen ychydig dros flwyddyn, agorodd y Stiwt newydd ar 10 Medi 1917.
Pam gafodd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ei godi?
Cafodd Oakdale, fel pob Stiwt arall, ei sefydlu yn ganolfan ar gyfer addysg a hamdden.
Yn absenoldeb ysgolion uwchradd, roedd llyfrgelloedd sefydliadau y gweithwyr yn rhoi cyfle i lowyr addysgu eu hunain.
O’r cychwyn cyntaf, roedd Llyfrgell Oakdale yn boblogaidd iawn – yn enwedig pan oedd streic. Ym mis Rhagfyr 1921, cafodd 503 o lyfrau eu benthyg. Yn ystod streic fawr 1926, cafodd dwywaith cymaint o lyfrau eu benthyg.
Yn ogystal â’r llyfrgell, roedd ystafell ddarllen, ystafell bwyllgor a neuadd gyngerdd i fyny’r grisiau. Byddai pob math o gymdeithasau yn defnyddio’r adeilad– yn gorau ac yn fandiau, yn golomenwyr ac yn grwpiau drama. Cynhaliwyd ralïau gwleidyddol, cyngherddau, darlithoedd a dawnsfeydd yma hefyd.
Pwy adeiladodd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale?
Rhoddodd Cwmni Glo a Haearn Tredegar fenthyciad o £3,000 i adeiladu’r Stiwt. Roedd y gweithwyr hefyd yn rhoi ceiniog yr wythnos o’u cyflog, sef cyfanswm o £1,554.
Beth ddigwyddodd i sinema Sefydliad y Gweithwyr?
Yn ystod y 1920au, daeth ‘mynd i’r pictiwrs’ yn beth hynod o boblogaidd. Ym 1927 ychwanegwyd sinema 650 sedd, ar gost o £8,106 (dros £400,000 heddiw). Cymerodd bron i 30 mlynedd i ad-dalu’r benthyciad a gafwyd gan Gwmni Haearn a Glo Tredegar.
Sut wnaeth Sefydliad y Gweithwyr gefnogi’r glowyr?
Bu’r Sefydliad yn hwb pwysig iawn i les y gweithwyr yn ystod Streic Gyffredinol 1926 a Dirwasgiad y 1930au. Dechreuwyd cronfa i gynorthwyo teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr am ddefnyddio’r Sefydliad. Gwelodd Oakdale faciwîs, milwyr Americanaidd a’r ‘Bevin boys’ (a ddaeth i gymryd lle'r glowyr oedd wedi ymuno â’r lluoedd arfog). Byddent yn mynd i’r pictiwrs, yn chwarae biliards ac yn dawnsio yma. Erbyn 1945 roedd hyn oll wedi dod â digon o arian i’r coffrau i dalu’r ddyled am godi’r adeilad.
Pryd gaeodd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale?
Yn y 1960au, dechreuodd bywyd ym mhentref Oakdale newid. Ymhen dim amser, roedd y Stiwt wedi newid hefyd.
Roedd llai a llai o aelodau. Er mwyn ceisio achub y Stiwt, cafodd ei droi’n glwb, ond roedd llawer o bobl y pentref yn gwrthwynebu’r newid. Parhau i wneud colled oedd hanes y Sefydliad ac fe gaeodd ei ddrysau ym 1987.
Pryd cafodd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ei agor yn yr Amgueddfa?
Dechreuodd y gwaith o ailadeiladu’r Stiwt yn Sain Ffagan ym 1992, ac fe’i hagorwyd i’r cyhoedd dair blynedd yn ddiweddarach ym 1995.
Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock, cyn AS dros etholaeth Bedwellte, cartref gwreiddiol Oakdale.
Darllen pellach: Building on strong foundations: Oakdale Workmen’s Institute
Ffeithiau Adeilad:
- Lleoliad gwreiddiol: Oakdale, Gwent (Sir Fynwy)
- Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1916
- Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1989
- Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1995
Mwy o Gynnwys