Arddangosfa Seidr

Dyma un o orielau cynharaf yr Amgueddfa, wedi’i chodi’n wreiddiol i arddangos cerbydau amaethyddol. Bellach mae’n arddangos y cyfarpar sydd ei angen i gynhyrchu seidr.

Diod feddwol yw seidr sy’n cael ei gwneud drwy eplesu sudd afalau. Dyma oedd diod feunyddiol ardaloedd gwledig siroedd y gororau – yn wir, hyd at ddechrau’r 1900au, roedd gweision fferm yn mynnu fod ganddynt hawl i seidr. ‘Dim seidr, dim gwaith’ oedd y gri.

Byddai ffermwyr yn ceisio gofalu nad oedd y gweithwyr yn cael gormod o’r ddiod. Y lwfans arferol oedd rhwng pedwar ac wyth peint y dydd. Roedd goryfed yn arbennig o gyffredin yn ystod rhai gweithgareddau, fel golchi defaid a chneifio, a hynny’n aml yn arwain at ddamweiniau ac ymladd.

Daeth diwedd ar y traddodiad ym 1921, pan sefydlwyd y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Gyda chynnydd yng nghyflogau gweision ffermydd, roedd ffermwyr yn gyndyn i roi seidr am ddim i’r gweithwyr, a daeth yr arfer i ben.