Tolldy

Pa fath o adeilad yw hwn?

Tolldy yw hwn – lle byddai’r casglwr tollau yn casglu arian gan deithwyr yn dâl am ddefnyddio’r ffordd.

Lle cafodd y tolldy ei adeiladu yn wreiddiol?

Adeiladwyd y tolldy hwn ym Mhenparcau, Aberystwyth ym 1771. Y tolldy hwn oedd y Porth Deheuol i mewn i dref Aberystwyth. Roedd yn un proffifol iawn, ac yn casglu tua chwarter i dollau’r sir. Roedd ar agor tan 1889.<,/p>

Pwy oedd yn gweithio yma?

Penodwyd David Jones o Ddihewyd yn geidwad cyntaf ar y tollborth ym mis Tachwedd 1771, a chodwyd y tollau cyntaf ar 23 Mawrth 1772.

Roedd yn byw yma – gydag un pen yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gasglu’r tollau a’r pen arall yn ystafell fyw gyda lle tân.

Costiodd y tolldy hwn £40 i’w adeiladu, oedd yn ddrud iawn yn y cyfnod - bedair gwaith pris bwthyn mwd a tho gwellt.

Pam adeiladwyd y tolldai?

Ddau gan mlynedd yn ôl, roedd teithio yng Nghymru yn fusnes drud. Os am ddefnyddio’r ffyrdd, roedd rhaid talu wrth dolldy fel hwn.

Cyfrifoldeb y Cwmnïau Tyrpeg oedd y ffyrdd. Byddai’r cwmnïau hyn yn benthyca gan dirfeddianwyr cefnog i dalu am adeiladu a chynnal yr heolydd. Er mwyn ad-dalu’r benthyciad byddai’r cwmni yn gosod clwydi, bariau neu gadwyni ar draws ffyrdd aml eu defnydd. Os oedd teithwyr am ddefnyddio’r heolydd byddai’n rhaid iddynt dalu wrth dolldy fel hwn. Mae’r arwydd ar ochr yr adeilad yn rhestru’r gwahanol daliadau ar gyfer cerbydau ac anifeiliaid.

Ffermwyr-denantiaid tlawd a ddefnyddiai’r ffyrdd hyn ar y cyfan. Yn aml byddent yn cael eu rhwystro a’u gorfodi i dalu mwy nag unwaith y dydd. Roeddent eisoes yn talu rhent i’r tirfeddianwyr cefnog, degfed ran o’u hincwm i’r Eglwys, a threthi. Daeth y tolldai yn darged i’w dicter cynyddol. Yn ne-orllewin Cymru trodd y dicter hwn yn drais.

Pwy oedd Merched Beca?

Rhwng 1839 a 1844 bu carfan o’r enw Merched Beca yn arwain y protestio. Dynion oedd y rhan fwyaf o’r rhain, a byddent yn pardduo eu hwynebau ac yn gwisgo dillad merched fel na fyddai neb yn eu hadnabod. Ymosododd Merched Beca â bwyeill ar 250 o dolldai a gatiau. Anfonwyd milwyr i reoli’r sefyllfa ac arestiwyd rhai o’r protestwyr. Anfonwyd llawer i’r carchar a chafodd rhai o’r arweinwyr eu halltudio i Awstralia. Ond hyd yn oed yn wyneb protest gyhoeddus mor gryf, bu’r tolldai ar waith am ugain mlynedd wedi hynny.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion (Sir Aberteifi)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1771
  • Dodrefnwyd: 1843
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1962
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1968
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld