Tŷ Gwair Maentwrog

Hyd at yr 20fed ganrif, roedd gwair yn cael ei gadw mewn teisi fel rheol a dim ond y landlordiaid gorau oedd yn codi tai gwair ar gyfer eu tenatiaid. Teulu Oakley o Blas Tan-y-bwlch a gododd y tŷ gwair hwn a nhw, hefyd, oedd perchnogion un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd, ym Mlaenau Ffestiniog gerllaw.

Credir i'r adeilad gael ei godi tua 1870, o rwbel o haenau uchaf chwarel yr Oakley a dyna o ble y daeth y pileri llechi hefyd. Mae traean o hyd y pileri o dan y ddaear. O goed y stad y daeth y pren hefyd ar ôl ei dorri ym melin lifio'r stad.

Ym 1870, dechreuwyd draenio corsydd a chymoedd y stad a chodi terfynau i wneud caeau. Ffensys haearn bwrw oedd yn rhannu llawer o'r caeau newydd ac roedd tŷ gwair fel hyn mewn rhai ohonynt i gadw bwyd ar gyfer y gwartheg. Lle i wartheg gysgodi yw'r adeilad bychan yn y pen.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Maentwrog, Gwynedd (Sir Feirionnydd)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1870
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1976
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1977

Gwybodaeth ymweld