Ysgol Maestir

40

Pa fath o adeilad yw hwn?

Mae’r ysgol hon o Oes Fictoria eLyfr: Ysgol Fictoraidd yng Nghymru | National Museum Wales (amgueddfa.cymru) yn wahanol iawn i’n hysgolion ni yn y 21ain ganrif. Cafodd ei hadeiladu ym 1880 yng nghanol y wlad ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.

Mae’r ysgol wedi’i hadeiladu o garreg siâl o chwareli lleol, a daw llechi’r to o chwareli’r gogledd. Wrth y fynedfa mae cyntedd, lle byddai’r plant yn sefyll mewn rhes cyn mynd mewn i’r unig ddosbarth. Mae ffenestri’r dosbarth yn uchel, fel mai dim ond awyr allai’r plant weld pan oeddent yn eistedd wrth eu desgiau! Mae cyntedd ar ben yr adeilad hefyd.

Pwy oedd plant Ysgol Maestir?

Cafodd yr ysgol ei chodi gan Syr Charles Harford ar gyfer plant gweithwyr Ystâd Falcondale er mwyn rhoi addysg sylfaenol iddynt. Roedd llai na 40 o blant yn yr ysgol, rhwng 5 a 14 oed. Rhwng 1894 a 1905, Miss Rachel Ann Thomas oedd y brifathrawes. Roedd hi’n cael cymorth gan ‘ddisgybl athrawes’ - un o’r merched hynaf fel arfer, oedd eisiau mynd ymlaen i fod yn athrawes.

Dyma Miss Thomas gyda’r plant ym 1895.

Diwrnod o ysgol ym Maestir

Fictoria oedd y frenhines ar y pryd, ac roedd y plant yn gorfod dysgu am yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd llawer o bwyslais ar ddysgu’r tair ‘R’ (reading, writing, arithmetic), a byddent yn dysgu trwy gopïo ac adrodd gwybodaeth. Roedd rhaid i blant llaw chwith wisgo trap bys i’w gorfodi i ysgrifennu â’u llaw dde – y gred oedd mai ochr y diafol oedd yr ochr chwith.

Byddent yn defnyddio ysgrifbinnau ac inc i ysgrifennu. Byddai Miss Thomas yn defnyddio’r ‘cliciwr’ i bwyntio at blentyn a chlicio unwaith os oedd hi am iddynt ddarllen. Pe byddent yn gwneud camgymeriad, byddai’n clicio ddwywaith i wneud iddynt ailadrodd y gair, cyn clicio eto i wneud i’r plentyn stopio, a symud ymlaen at y plentyn nesaf.

Câi’r merched wersi gwnïo, tra bo’r bechgyn yn dysgu arlunio. Byddai’r plant i gyd yn cael gwersi ymarfer corff yn yr iard o flaen yr ysgol, ond roedd dwy iard chwarae ar wahân i’r bechgyn a’r merched yn y cefn.

Beth oedd y Welsh Not, a sut oedd yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol Maestir?

Darn bach o bren oedd y Welsh Not, gyda’r llythrennau WN wedi’u cerfio arno. Roedd darn o linyn yn sownd i bob ochr er mwyn gallu ei roi o gwmpas gwddf plentyn.

Cymraeg oedd iaith gyntaf y plant, ond yn yr ysgol roedd eu gwersi’n Saesneg am mai dyna oedd ‘iaith addysg’. Byddai unrhyw blentyn gâi ei ddal yn siarad Cymraeg yn cael ei orfodi i wisgo’r ‘Welsh Not’. Câi plant eu hannog i achwyn ar blant oedd yn siarad Cymraeg. Byddai’r plentyn oedd yn gwisgo’r Welsh Not ar ddiwedd y dydd yn cael y gansen. Byddent hefyd yn cael eu cosbi am fod yn anniben, yn hwyr, neu am gwmanu dros eu desgiau.

Beth oedd safon addysg yn Ysgol Maestir?

Roedd arolygwyr ysgol yn aml yn cwyno am safon y dysgu yn Ysgol Maestir. Roedd plant yn colli ysgol yn aml, gan eu bod yn gorfod rhoi help llaw adref ar y fferm – yn enwedig ar adegau prysur fel y cynhaeaf. Mewn ymgais i wella presenoldeb rhoddwyd cardiau teilyngdod yn wobrau i’r plant am fynychu’n gyson.

Os oedd arolygydd yn yr ysgol, byddai plant yn cael rhybudd ymlaen llaw i godi eu llaw dde os oeddent yn gwybod yr ateb i gwestiwn, a chodi’r llaw chwith os nad oeddent yn gwybod.

Oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion, caewyd Ysgol Maestir ym 1916, a chafodd ei symud i Sain Ffagan a’i hagor yma ym 1984.

Wyddech chi?

Roedd y plant yn dod o deuluoedd tlawd, ac yn aml byddent yn gwisgo dillad oedd arfer bod yn berchen i’w brodyr a chwiorydd hŷn. Byddai’r bechgyn yn gwisgo cap, sgarff a gwasgod, a’r merched yn gwisgo pinaffor neu ffedog dros eu dillad i’w cadw’n lân. Gair arall am ffedog yw ‘brat’. Os oedd merch yn baeddu ei ffedog roedd ganddi ‘spoilt brat’ - ymadrodd sy’n dal i gael ei ddefnyddio yn y Saesneg i ddisgrifio plentyn sydd wedi’i ddifetha!

Ydych chi’n nabod rhywun sydd â ‘dwy droed chwith’? Fydd pethau’n mynd ‘o chwith’ i chi weithiau? Pam ein bod ni’n dweud hyn? Yn ystod Oes Fictoria, roedd pobl yn credu fod Lwsiffer (y Diafol), yr harddaf o’r angylion, wedi eistedd ar ochr chwith Duw, cyn cael ei fwrw allan o’r nefoedd. Felly roedd bod yn llaw chwith yn arwydd o ddrygioni. Mae’r gair deheuig, sy’n cyfeirio at y llaw dde, yn golygu ‘medrus’, tra bod ni’n disgrifio rhywun trwsgl fel person ‘lletchwith’. Erbyn heddiw, rydyn ni’n fwy tebygol o gredu bod pobl llaw chwith yn bobl greadigol ac artistig. Tipyn o newid! Ond edrychwch chi ar gartŵns heddiw - mae’r dihiryn yn aml iawn ar ochr chwith y sgrin.

Mae’r chwe wythnos o wyliau haf mewn ysgolion heddiw yn dyddio’n ôl i’r cyfnod pan fyddai’n rhaid i blant helpu eu rhieni ar y fferm.

Erbyn heddiw, mae Adran Addysg yr Amgueddfa yn trefnu gwersi Fictoraidd i blant cynradd gael profiad o sut beth fyddai ysgol dros ganrif yn ôl!

 

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Maestir, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion (Cardiganshire)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1880
  • Dodrefnwyd: 1890au
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1981
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1984
  • Gwybodaeth ymweld