CoedLan – Cwrs Rhaffau Sain Ffagan
Dewch i fwynhau cwrs rhaffau cyffrous newydd fry ym mrigau’r coed bedw yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Dringwch, neidiwch, camwch a siglwch eich ffordd drwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn.
Taclwch 18 rhwystr CoedLan, gan gynnwys y boncyff balans, y bont gam, y rhwydi cargo a’r wifren wib.
Mae'r cwrs yn costio £15 y pen am un daith lawn o gwmpas y cwrs, sy'n cynnwys gwifren wib 50m i orffen.
Bydd CoedLan yn ail agor ar 1 Ebrill 2023
Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra, a dros 6 oed i gymryd rhan. Rhaid i blant rhwng 110cm a 130cm fod yng nghwmni unigolyn dros 130cm o daldra ac yn 12 oed neu hŷn. Y pwysau trymaf a ganiateir yw 18 stôn.