Gweithdy
Oriel na welwyd mo’i thebyg yw hon – dathliad o sgiliau gwneuthurwyr ar draws y canrifoedd, a chyfle i chi roi cynnig ar rai o’r crefftau eich hun. Mae’r oriel ar gyrion y goedwig mewn adeilad ecogyfeillgar newydd, trawiadol. Dewch i gael eich ysbrydoli gan y gwrthrychau yn oriel ryngweithiol Clore, a dysgu sut cawsant eu creu; o fwyeill cerrig i gadeiriau coedyn. Awydd rhoi cynnig arni eich hun? Ewch at un o’r meinciau pwrpasol a bwrw iddi.
Cewch ddysgu sut y bu pobl yn creu gwrthrychau hardd o goed, clai, carreg, metel, planhigion a thecstilau. Edrychwch ar un o’r darnau hynaf o ddefnydd a ddarganfuwyd yng Nghymru, a chreu eich dyluniad clytwaith eich hun. Mae enghreifftiau gwych o waith llaw yma, fel brigwn Capel Garmon - gwaith gof cywrain o Oes yr Haearn. Ac os yw hwnnw, neu unrhyw un o’r gwrthrychau eraill, yn eich ysbrydoli, gallwch gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau – fe wnawn ni grefftwr ohonoch chi!