Ffilmio ar Leoliad
![](/media/33029/thumb_1600/_MG_3957.jpg)
Naws a Hanes
Mae Sain Ffagan yn amgueddfa fyw - cartre dros 40 o adeiladau o bob cwr o Gymru, wedi'u hail-adeiladu yn defnyddio technegau traddodiadol a'u gosod mewn gerddi o'r cyfnod.
Llogwch yr adeiladau hynod, hynafol hyn ar gyfer sesiynau ffotograffiaeth neu ffilmio teledu. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.![](/media/37231/thumb_1600/film-location-archaeology.jpg)
Cymru Trwy'r Canrifoedd
Gewch chi ddim safle tebyg yng Nghymru - sy'n cynnig ystod mor eang o leoliadau cyfnod ar un safle. O dai crwn yr Oes Haearn i Institiwt y Glowyr; siopau o ddechrau'r 20ed ganrif i Eglwys Ganoloesol - ac oll o fewn cyrraedd i'r M4, ddeng munud o ganol Caerdydd.
Rydym ni'n croesawu ffilmio ar leoliad, a mae pob llogiad yn cefnogi'n gwaith wrth i ni ofalu am y darn arbennig hwn o hanes Cymru.
![](/media/10477/WNS_St_Teilos_05100703.jpg)
Ymweld
'Dyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda chriwiau ar raglenni nodwedd, fel Dr Who a'r Antiques Roadshow, yn ogystal â nifer helaeth o gwmnïau annibynnol ar raglenni dogfen, cyfweliadau a pherfformiadau.
I weld beth sydd gennym ni i'w gynnig:
Bwciwch ymweliad er mwyn cael golwg ar ofodau nad sy'n agored i'r cyhoedd.![](/media/33028/thumb_1600/_MG_1808.jpg)
Hanes Byw
Mae ein crefftwyr a'n curaduron yn arbenigwyr profiadol, sy'n llawn straeon sy'n olrhain ein hanes.
Gofynnwch i ni sut y gallwch wneud y gorau o'u profiad i ddod â naws ac arbenigedd i raglen ddogfen, neu ddarn am hanes cymdeithasol.![](/media/12269/keepsakes.jpg)
Cefnogwch ein gwaith
Fel corff, rydym ni'n darparu mwy o gyfleuon dysgu y tu allan i'r dosbarth nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, yn ogystal â gofalu am ein casgliad cenedlaethol.
![](/media/8890/Penny-Hill-painting-in-the-Celtic-VIllage.jpg)
Newyddion a'r Wasg
I weld beth sy'n digwydd yn ein hamgueddfa, neu i gysylltu â Swyddfa'r Wasg, ewch i'r
dudalen newyddion a'r cyfryngau