Proffil Staff Graham Davies
Rheolwr Profiad Digidol
Manylion Cyswllt
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP
Ffôn: +44 (0)29 2057 3340
Enw Staff
Enw Swydd
Cysylltiadau
Graham yw Rheolwr Profiad Digidol Amgueddfa Cymru. Ffocws ei waith yw sicrhau allbynnau digidol sy’n gynaliadwy, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar y gynulleidfa. Gan anelu bob amser at ddiffinio llwybrau gwaith effeithlon ar gyfer creu cynnwys, a sianeli addas ar gyfer ystod eang o weithgareddau digidol, mae’n eiriolwr brwd o ystadegau, dadansoddi ac adborth defnyddwyr.
Graham fu’n goruchwylio’r gwaith ar ail-ddylunio llwyddiannus gwefan yr Amgueddfa, sydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer gwreiddio sgiliau digidol drwy’r corff. Mae hefyd wedi cydlynu lansiad a gwerthusiad cynllun peilot llwyddiannus rhaglen Realiti Estynedig symudol – y cyntaf o’i math yn y DU.
Yn 2017, gwahoddwyd Graham i gymryd rhan yn rhaglen hyfforddi Transforming Future Museums Academi Amgueddfeydd Ryngwladol y British Council yng Ngwlad Groeg. Yno, bu’n ymgysylltu â nifer o amgueddfeydd a phobl broffesiynol am eu dulliau gweithio a chynyddu effaith, gwytnwch a chynaliadwyedd eu sefydliadau.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar fodelau adrodd sy’n helpu i ddiffinio a mesur llwyddiant ar-lein, gan ddefnyddio ystod o ddulliau er mwyn casglu tystiolaeth, profi damcaniaethau a gwerthuso’r effaith ddigidol ar gyfer cynulleidfaoedd a thimau mewnol ar-lein ac mewn orielau.
https://www.linkedin.com/in/graham-davies-1016219/
Twitter: @gd76
Detholiad o Gyhoeddiadau
James, D., Davies, G., Kidd, J., a John, A. "Awe or Empathy, Fast or Slow? Articulating Impacts from Contrasting Mobile Experiences." MW19: MW 2019. January 15, 2019.
Davies, G. a D. James, Evaluating the On-line Audience of a New Collections Web site. Yn J. Trant and D. Bearman (eds). Museums and the Web 2010: Proceedings. Toronto: Archives & Museum Informatics. March 31, 2010.