Ceilys

Gelwir Ceilys weithiau'n Bowlio Deg ac weithiau'n Bowlio Naw er bod deg ohonynt bob amser! Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg fe'u gelwid yn Ceilys yng Nghymru, Kayles yn Lloegr, a Kyles yn yr Alban. Gosodir y ceilys ar ffurf triongl. Yn gyntaf gosodir pedair ceilysen mewn llinell, tair yn y bylchau o'u blaen, dau yn y bylchau o'u blaen nhw, gan orffen ag un. Nid oedd y plant yn defnyddio pêl gron neu sffêr i ddymchwel y ceilys bob tro. Roedd yn dipyn mwy o her defnyddio siâp silindr a elwid yn 'gaws'. Mae ein Bowlio Deg modern ni'n fersiwn cymhleth o gêm hen iawn.

Awgrym am weithgaredd: Gwneud ceilys

Byddwch angen:

  • Poteli dŵr plastig gwag â thopiau sgriw.
  • Tywod
  • Paent neu bennau felt

Peintiwch neu lliwiwch y label ar y poteli. Rhifwch nhw o un i ddeg. Rhowch dywod yn y poteli nes bod pob un yn hanner llawn. Sgriwiwch y topiau yn dynn. Gosodwch nhw mewn triongl gan ddechrau gyda rhif un yn y blaen. Nawr penderfynwch os hoffech chi eu dymchwel â phêl (sffêr) neu 'gaws' (silindr).