Treftadaeth Cymru
Treftadaeth Cymru yw partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru.
cestyll, safleoedd hanesyddol, archifau ac amgueddfeydd anhygoel
mewn tirwedd odidog
Caerdydd a’r cyffiniau
![](/media/37855/thumb_1600/National-Museum-Cardiff.jpg)
O gelf gyfoes i ddeinosoriaid, Monet i’r mamoth blewog – mae rhywbeth i bawb yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas!
Gydag un o’r casgliadau gorau yn Ewrop o waith yr Argraffiadwyr, a thaith drwy ofod ac amser yn oriel Esblygiad Cymru, lle cewch weld deinosoriaid a mamoth blewog.
![](/media/37856/thumb_1600/Aernodwydd-farmhouse-St-Fagans-National-History-Museum.jpg)
Ewch i weld sut fu pobl Cymru’n byw drwy’r canrifoedd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Cewch eich ysbrydoli gan draddodiadau ac arferion Cymreig yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd y wlad ac un o brif amgueddfeydd awyr-agored Ewrop.
![](/media/37857/CAERPHILLY-CASTLE.jpg)
Mae tŵr sy’n fwy cam na Thŵr Pisa hyd yn oed yng nghastell enfawr Caerffili!
Yn bwrw’i gysgod dros dref Caerffili, dyma’r castell mwyaf yng Nghymru.
![](/media/37858/CASTELL-COCH.jpg)
Castell tylwyth teg eithaf modern yw Castell Coch, ond mae’n sefyll ar sylfeini llawer hŷn
Mae’r castell yn gynnyrch dychymyg byw Fictoraidd a chymorth cyfoeth diddiwedd.
De ddwyrain Cymru
![](/media/37859/thumb_1600/national-roman-legion-museum.jpg)
Dewch i ddarganfod sut y newidiodd y Rhufeiniaid Gymru am byth yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Camwch nôl mewn amser i ddarganfod sut oedd pobl yn byw ar gyrion pellennig yr Ymerodraeth Rufeinig.
![](/media/37984/thumb_1600/Big-Pit-National-Coal-Museum.jpg)
Taith mewn pwll glo go iawn, gan gynnwys y daith danddaear fyd-enwog yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Dewch i gael blas o fywydau’r miloedd o ddynion oedd yn gweithio yn y pwll, mewn lleoliad unigryw sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
![](/media/37985/blaenavon-ironworks.jpg)
Profiad o fywyd a gwaith yn y ddeunawfed ganrif, yng Ngwaith Haearn trawiadol Blaenafon
Mae bythynnod a siop wedi’u hail-greu a thechnoleg sain arloesol yn dod â stori’r gwaith haearn yn fwy byw nag erioed, ar cyfan am ddim i bawb.
![](/media/37986/caerleon-fortress-baths.jpg)
Beth am weld sut y byddai’r Rhufeiniaid yn ymlacio yn yr ail ganrif, yn adfeilion trawiadol Baddonau a Chaer Rufeinig Caerllion?
Dyma olion Rhufeinig sydd heb eu hail ym Mhrydain.
![](/media/37987/tintern-abbey.jpg)
Apêl Abaty Sistersaidd Tyndyrn mor gryf ag erioed
Tyndyrn oedd yr ail sefydliad Sistersaidd ym Mhrydain, a’r cyntaf yng Nghymru. Mae’r abaty wedi ysbrydoli llu o feirdd ac artistiaid, gan gynnwys William Wordsworth a J. M. W. Turner.
![](/media/37988/raglan-castle-crop.jpg)
Mae Castell Rhaglan yn symbol grymus o bŵer a chyfoeth – ac yn werth ei weld!
Mae popeth am y lle hwn yn wych – o’r tŵr mawr i’r porthdy, sy’n gadael tipyn o argraff ar ei ymwelwyr.
![](/media/37989/chepstow-castle.jpg)
Yng Nghastell Cas-gwent mae’r drysau hynaf yn unrhyw gastell yn Ewrop – yn bren i gyd ac yn 800 oed.
Tan 1962 roedd y drysau hyn yn y prif borth, ond nawr maent yn cael eu cadw’n saff yn yr arddangosfa sydd ar y safle.
![](/media/37990/white-castle.jpg)
O’r Tri Chastell – Gwyn, Ynysgynwraidd a’r Grysmwnt – y mwyaf cyflawn yw’r Castell Gwyn, a gaiff ei warchod gan dyrau crwn nerthol.
Caiff y Tri Chastell eu hystyried fel uned am fod eu tiroedd wedi’u huno dan arglwyddiaeth Hubert de Burgh.
Gogledd orllewin Cymru
![](/media/37991/thumb_1600/National-Slate-Museum.jpg)
Dewch i ddysgu cyfrinachau’r llechen yn Amgueddfa Lechi Cymru
Cyfle i brofi bywyd caled y chwarelwyr mewn hen weithdai sydd â’u peiriannau’n dal i droi, a chrefftwyr i arddangos sgiliau traddodiadol hollti’r llechen.
![](/media/37992/caernarfon-castle.jpg)
Castell Caernarfon – canolbwynt trawiadol y dref a chastell mwyaf mawreddog Edward I.
Nid ar chwarae bach fyddai rhywun yn ymosod ar y castell hwn. Trwy wneud ei farc mewn carreg, creodd Edward I un o gestyll mwyaf Cymru, sydd yn safle treftadaeth y byd.
![](/media/37993/criccieth-castle.jpg)
Castell Cricieth – Caer uwch y môr, a godwyd gan dywysog o Gymru.
Fry ar bentir gyda’r môr yn ei amgylchynu bron, mae’r golygfeydd yn odidog! Byddai’r porthdy dau dŵr yn ddigon i godi ofn ar unrhyw ymosodwyr. Bu ymladd tanbaid am y castell rhwng tywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr, a newidiodd ddwylo sawl gwaith.
![](/media/37994/harlech-castle.jpg)
Castell Harlech – un o bedwar castell yn y gogledd orllewin sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd!
Castell ar ymyl clogwyn trawiadol sy’n nodweddiadol o ddull dibynadwy ‘wal o fewn wal’ Edward I, a godwyd ar frys rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o bron i fil o grefftwyr a llafurwyr.
![](/media/37995/beaumaris-castle.jpg)
Castell Biwmares – y castell mwyaf perffaith ei dechneg ym Mhrydain o bosibl.
Castell olaf Edward I yng ngogledd Cymru – ond un heb ei orffen! Mae Biwmares yn un o’r pedwar castell sy’n rhan o Gestyll a Muriau Trefol y Brenin Edward yn Safle Treftadaeth y Byd Gwynedd – ac mae’n hawdd gweld pam!
Y canolbarth
![](/media/37996/thumb_1600/national-wool-museum.jpg)
Gadewch i hanes diwydiant gwlân Cymru nyddu ei swyn yn Amgueddfa Wlân Cymru
Dewch i ddysgu sut mae gwlân yn mynd o ddafad i ddefnydd – o gneifio’r defaid i nyddu’r edafedd.
![](/media/37997/cilgerran-castle.jpg)
Dysgwch am Gastell Cilgerran, sydd wedi cael ei goncro a’i gipio droeon dros 800 mlynedd.
Yn draddodiadol, câi cestyll canoloesol eu dylunio gyda thŵr cryf yn y canol, ond mae Castell Cilgerran yn anarferol am fod dau dŵr crwn anferthol. Mae’r tyrrau hyn yn dal i sefyll heddiw – er gwaethaf ymdrechion Owain Glyndŵr!
![](/media/37998/thumb_1600/National-Library-of-Wales.jpg)
Dewch i ddarganfod eich hun yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Os am ddysgu am hanes eich teulu, eich tŷ neu drysorau’r genedl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r lle i ddechrau. Mae’r adeilad eiconig hwn yn gartref i oriel gelf fwyaf Cymru; casgliad amhrisiadwy o lyfrau, llawysgrifau prin, ffilmiau, paentiadau a mapiau; ac mae’n cynnal llu o ddigwyddiadau yn ymwneud â threftadaeth a diwylliant Cymru.
![](/media/37999/RCAHMW.jpg)
Dewch i ymweld â’r Comisiwn Brenhinol i ganfod mwy am dreftadaeth Cymru
Gyda bron i 2 filiwn o ddelweddau, cynlluniau a mapiau hanesyddol – mae digon i’w ddarganfod!
Teithiau
Treftadaeth Diwydiannol (PDF)Gogledd ddwyrain Cymru
![](/media/38000/denbigh-castle.jpg)
Nodwedd amlycaf Dinbych yw’r porthdy tri thŵr anarferol.
Gyda dros hanner milltir o furiau tref, mae Castell Dinbych yn gaer gadarn a thrawiadol.
![](/media/38001/conwy-castle.jpg)
Daw nerth a chadernid Castell Conwy o’r graig y saif arni.
Adeiladwyd gan y Pensaer James o San Siôr ar ran Edward I, ac mae gyda’r gorau o gaerau canoloesol Prydain sy’n dal i sefyll. Rhwng 1277 a 1307 gwariodd Edward tua £15,000 ar y gwaith – y swm mwyaf a wariodd mewn cyfnod mor fyr ar unrhyw un o’i gestyll Cymreig. Mae castell Conwy yn un o’r pedwar sy’n rhan o Gestyll a Muriau Trefol y Brenin Edward yn Safle Treftadaeth y Byd Gwynedd – ac mae’n hawdd gweld pam!
![](/media/38002/flint-castle.jpg)
Mae Castell y Fflint ar arfordir gogledd ddwyrain Cymru yn cael ei enwi gan Shakespeare yn Richard II.
Dechreuwyd adeiladu Castell y Fflint ym 1277, un o’r cyntaf a godwyd yng Nghymru gan Edward I. Mae’n lleoliad pwysig yn nrama Shakespeare, Richard II, oherwydd yno y caiff y brenin ei gipio gan Henry Bolingbroke, a goronwyd yn ddiweddarach yn Harri IV.
Teithiau
Gogledd Ddwyrain Cymru (PDF)De orllewin Cymru
![](/media/38003/thumb_1600/waterfront-gallery.jpg)
Dewch i ddysgu am hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Gyda’r dechnoleg ryngweithiol ddiweddaraf ar flaenau eich bysedd, cewch ddarganfod sut gafodd bywydau pobl a chymunedau Cymru eu gweddnewid gan y Chwyldro Diwydiannol a dysgu hefyd rôl technoleg yn y Gymru fodern.
![](/media/38004/kidwelly-castle.jpg)
Mae Castell Cydweli gyda’r gorau yng Nghymru.
Ger y castell hwn y brwydrodd y dywysoges Gwenllian i achub y Deheubarth rhag y goresgynwyr Normanaidd.
![](/media/38006/laugharne-castle.jpg)
Mae enw Dylan Thomas yn gyfystyr â Thalacharn. Roedd castell canoloesol godidog y pentref – fu wedyn yn blasty Tuduraidd – yn ysbrydoliaeth i Thomas yn ogystal â’r awdur Richard Hughes, fu’n ysgrifennu yng nghysgod y castell.
Ewch am dro hamddenol drwy erddi’r castell, cyn mynd i weld y golygfeydd ar lan y môr.
![](/media/38005/oxwich-castle.jpg)
Mae’n gyfrinach, ond plasty Tuduraidd yw Castell Oxwich mewn gwirionedd.
Gyda golygfeydd arbennig o benrhyn Gŵyr, mae’n hawdd gweld pam eu bod wedi darganfod y lleoliad.
![](/media/38007/carreg-cennen-castle.jpg)
Nid tasg hawdd oedd ymosod ar Gastell Carreg Cennen!
Roedd amddiffynfeydd y castell yn gwneud defnydd llawn o’r tir – mae clogwyn serth ar bob ochr i’r gaer. Serch hynny, newidiodd y castell ddwylo rhwng y Cymry a’r Saeson sawl gwaith yn y canol oesoedd.