Telerau ac amodau

CRYNODEB

Bwriad ein system WiFi yw ategu eich ymweliad â’r Amgueddfa drwy ganiatáu i chi gysylltu â gwefan yr Amgueddfa, www.amgueddfacymru.ac.uk, a gwefannau eraill sy’n berthnasol i gasgliadau’r Amgueddfa.

Mae’r gwasanaeth am ddim, ond rhaid i chi dderbyn y telerau ac amodau defnydd neu ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i ddefnyddio’r system.

Maent yn esbonio sut y caiff y system ei chyflwyno, yr hyn yr ydym ni’n ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol, pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu a sut y gallai gael ei defnyddio, ynghyd â chyngor pwysig parthed diogelwch y system.

Darperir y manylion llawn yma ac rydym yn argymell yn gryf i chi eu darllen.

Cynigir cyswllt WiFi ym mhob un o’n Hamgueddfeydd yn ystod oriau agor. Ein nod yw sicrhau cyswllt i’r gwasanaeth bob tro, ond ni allwn warantu cyswllt.

Pwyswch y botwm ‘Rwyf yn deall ac yn derbyn’ os ydych yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Os nad ydych yn eu derbyn, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a rhaid i chi ddatgysylltu eich dyfais ar unwaith.

Darperir y Gwasanaeth WiFi Cyhoeddus gan Amgueddfa Cymru.

Mae’r cytundeb hwn yn datgan telerau ac amodau darparu cyswllt rhyngrwyd di-wifr (“y Gwasanaeth”) i chi, fel cwsmer neu westai Amgueddfa Cymru (“ni”), a’ch cytundeb chi i gadw at y telerau ac amodau hyn.

1. Cwmpas y Gwasanaeth

1.1 Nid ydym yn argymell defnyddio unrhyw wefannau yn benodol (neu unrhyw wasanaethau rhyngrwyd eraill) (“Gwasanaethau Rhyngrwyd”) a’ch cyfrifoldeb chi fydd unrhyw Wasanaethau Rhyngrwyd a ddefnyddiwch.

1.2 Nid oes gennym gyfrifoldeb, na rheolaeth, dros y Gwasanaethau Rhyngrwyd y byddwch yn eu defnyddio ac nid ydym yn gwarantu y bydd unrhyw wasanaethau yn rhydd o gamgymeriadau na firysau.

1.3 Nid oes gennym gyfrifoldeb, na rheolaeth, dros y wybodaeth a anfonwch neu a dderbyniwch drwy’r Gwasanaeth.

1.4 Nid ydym yn archwilio’r defnydd a wnewch o’r Gwasanaeth neu natur y wybodaeth a anfonwch neu a dderbyniwch, heblaw am at ddibenion dadansoddi rhwydwaith.

1.5 Nid ydym yn gwarantu:

1.5.1 argaeledd y Gwasanaeth; 1.5.2 y cyflymder y caiff y wybodaeth ei throsglwyddo neu ei derbyn drwy’r Gwasanaeth; neu 1.5.3 y bydd y Gwasanaeth yn gymhathol â’ch offer neu unrhyw feddalwedd a ddefnyddiwch.

1.6 Er ein bod yn cymryd camau rhesymol i sicrhau diogelwch y Gwasanaeth ac i atal mynediad anghyfreithlon i wybodaeth a drosglwyddir neu a dderbynnir drwy’r Gwasanaeth, nid ydym yn gwarantu diogelwch y wybodaeth y byddwch yn ei throsglwyddo neu ei derbyn wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth neu a gedwir ar unrhyw offer sy’n defnyddio’r Gwasanaeth, ac rydych yn derbyn taw eich cyfrifoldeb chi yw gwarchod eich gwybodaeth a chymryd camau digonol (boed yn offer neu weithdrefnau) i sicrhau diogelwch, dilysrwydd a chyfrinachedd eich gwybodaeth a’ch data.

1.7 Cadwn yr hawl bob amser i dynnu’r Gwasanaeth yn ôl, newid amodau neu ddull defnyddio’r Gwasanaeth, newid codau mynediad, enwau defnyddwyr, cyfrineiriau neu unrhyw wybodaeth ddiogelwch sy’n angenrheidiol i gael mynediad i’r Gwasanaeth.

2. Eich defnydd o’r Gwasanaeth

2.1 Ni chewch ddefnyddio’r gwasanaeth i ddefnyddio Gwasanaethau Rhyngrwyd, neu anfon neu dderbyn e-bost, neu gyfrannu sylwadau i wefannau rhwydweithio cymdeithasol a fforymau sydd:

2.1.1 yn enllibus, bygythiol, brawychus neu y gellid eu cyfri’n aflonyddwch; 2.1.2 yn cynnwys iaith neu ddeunydd anweddus neu ddifrïol, neu sy’n cynnwys rhegfeydd; 2.1.3 yn cynnwys deunydd pornograffig (yn destun, lluniau, ffilmiau, clipiau fideo sy’n benodol rywiol neu’n gynhyrfus eu natur); 2.1.4 yn cynnwys delweddau sarhaus neu ddifrïol parthed rhyw, hil, crefydd, lliw croen, tras, oedran, anabledd corfforol neu feddyliol, cyflwr meddygol neu dueddiad rhywiol; 2.1.5 yn cynnwys deunydd sy’n tramgwyddo ar hawliau trydydd parti (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol); 2.1.6 yn ein tyb rhesymol ni, yn gallu effeithio’n anffafriol ar y modd y cyflawnwn ein busnes; neu 2.1.7 yn anghyfreithlon neu amhriodol mewn unrhyw fodd arall;

2.2 Mae cerddoriaeth, fideo, lluniau, testun ac unrhyw gynnwys arall ar y rhyngrwyd yn waith dan hawlfraint ac ni ddylech lawrlwytho, newid, e-bostio neu ddefnyddio unrhyw gynnwys o’r fath mewn unrhyw fodd oni bai eich bod yn sicr bod perchennog y gwaith wedi awdurdodi eich defnydd ohono.

2.3 Gallwn derfynu neu atal y Gwasanaeth dros dro os tybiwn yn rhesymol eich bod yn torri unrhyw un o amodau’r cytundeb hwn gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, gymalau 2.1 i 2.3 uchod.

2.4 Argymhellwn i chi beidio â defnyddio’r Gwasanaeth i drosglwyddo neu dderbyn unrhyw wybodaeth neu ddata cyfrinachol ac, os byddwch yn gwneud hynny, mai eich cyfrifoldeb chi ydyw.

2.5 Gwasanaeth at ddefnydd defnyddwyr yn unig ydyw. Os byddwch yn defnyddio’r Gwasanaeth at ddibenion masnachol byddwn yn eich cyfeirio yn benodol at gymal 6.2 isod.

2.6 Gallwn newid y telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg, gan gynnwys a heb gyfyngiad, addasu, ychwanegu, neu dynnu telerau neu amodau. Bydd amrywiadau o’r fath yn dod i rym ar unwaith wedi iddynt gael eu postio ar y Gwasanaeth hwn. Wrth barhau i ddefnyddio’r Gwasanaeth wedi diweddaru’r telerau ac amodau byddwch yn cadarnhau eich bod yn derbyn y newidiadau hynny.

3. Gweithgarwch Troseddol

3.1 Nid oes gennych yr hawl i ddefnyddio’r Gwasanaeth i ymgymryd ag unrhyw weithgarwch sy’n gyfystyr â, neu a all gael ei ystyried yn gyfystyr â, thramgwydd troseddol, yn y Deyrnas Unedig nac mewn unrhyw wladwriaeth yn y byd.

3.2 Rydych yn derbyn ac yn cydnabod y gall fod rheidrwydd arnom ni i ddarparu cymorth a gwybodaeth i awdurdodau gorfodi’r gyfraith, asiantaethau’r llywodraeth ac awdurdodau eraill.

3.3 Rydych yn derbyn ac yn cydnabod y gallwn gadw cofnod o gyfeiriadau rhwydwaith unrhyw ddyfeisiau sy’n cysylltu â’r Gwasanaeth, yr amseroedd yr oeddent wedi’u cysylltu â’r Gwasanaeth a’r gweithgarwch oedd yn berthnasol i’r cyfeiriad hwnnw.

3.4 Rydych yn derbyn yn ogystal bod hawl gennym i gydweithredu ag awdurdodau gorfodi’r gyfraith a deiliaid hawlfraint wrth ymchwilio i unrhyw weithgarwch anghyfreithlon drwgdybiedig neu honedig gennych, a all gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i, ddatgelu unrhyw wybodaeth sydd yn ein meddiant (boed yn unol â chymal 3.3 neu fel arall), a bod hawl gennym i’w darparu, yn ôl y gyfraith, i awdurdodau gorfodi’r gyfraith nei ddeiliaid hawlfraint.

4. Gwybodaeth a gaiff ei chasglu tra eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth

4.1 Yr unig wybodaeth a gasglwn yw cyfeiriad rhwydwaith eich dyfais. Rydym hefyd yn cofnodi gweithgarwch rhwydwaith gan gynnwys amser, dyddiad a gwefannau yr ymwelwyd â nhw. 4.2 Rydym yn defnyddio cyfeiriad rhwydwaith eich dyfais i osod cyswllt â’r Gwasanaeth. Ni fydd y Gwasanaeth yn gweithio hebddo. Rydym yn defnyddio cofnodion y rhwydwaith i ddarparu cymorth a’n cynorthwyo i gynnal lefelau gwasanaeth da. 4.3 Rydym yn cadw’r wybodaeth hon am ddau fis ar y mwyaf. 4.4 Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu rannu’ch gwybodaeth gyda thrydydd parti oni bai ein bod yn derbyn caniatâd gennych neu ei fod yn ofynnol yn unol â chyfraith.

5. Cysylltu ag Amgueddfa Cymru

5.1 Os oes gennych unrhyw gwestiynau parthed sut y caiff eich gwybodaeth ei gadw, cysylltwch â Swyddog Gwarchod Data Amgueddfa Cymru:

Swyddog Gwarchod Data Amgueddfa Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NP

6. Telerau Eraill

6.1 Rydych yn cytuno i’n digolledu’n llawn am unrhyw honiadau neu achos cyfreithiol a wneir neu a gaiff ei fygwth yn ein herbyn gan rywun arall oherwydd i chi dorri telerau ac amodau’r cytundeb hwn wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth, yn benodol, cymalau 2.1 i 2.3 a 3.1 uchod.

6.2 Er nad ydym yn ceisio cyfyngu ar ein cyfrifoldeb am gamliwio twyllodrus neu os cewch eich lladd neu eich anafu o ganlyniad i’n hesgeulustod ni, nid oes gennym gyfrifoldeb (hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith) i’ch digolledu (boed ein gweithgaredd yn esgeulus neu beidio) am unrhyw golled ariannol, colled elw, refeniw, gwariant, amser, arbedion neu elw neu refeniw disgwyliedig, cyfle, data, defnydd, busnes, gwariant gwastraff, amharu ar fusnes, colled yn deillio o ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol, colled yn deillio o neu yn gysylltiedig â defnydd y Gwasanaeth neu anallu i ddefnyddio neu gysylltu â’r Gwasanaeth neu fethiant, atal neu dynnu'r Gwasanaeth yn ei gyfanrwydd neu yn rhannol ar unrhyw bryd, neu niwed i’r eiddo ffisegol neu unrhyw golled uniongyrchol debyg arall all godi parthed y cytundeb hwn, boed i ni dderbyn cyngor ymlaen llaw o bosibilrwydd colled neu ddifrod o’r fath neu beidio.

6.3 Rydym yn cytuno nad yw’r cytundeb hwn yn caniatáu i’r naill barti weithredu, neu ymddangos i eraill ei fod yn gweithredu, fel asiant ar ran y parti arall ac na all unrhyw drydydd parti orfodi telerau’r cytundeb hwn dan y Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999.

6.4 Rheolir y cytundeb hwn gan gyfraith Cymru a Lloegr ac mae’n ddarostyngedig i awdurdodaeth anunigryw llysoedd Lloegr.

Pwyswch y botwm ‘Rwyf yn deall ac yn derbyn’ os ydych yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Os nad ydych yn eu derbyn, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a rhaid i chi ddatgysylltu eich dyfais ar unwaith.