Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ysgoloriaeth Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) yr AHRC
Amgueddfa CymruLlyfrgell Genedlaethol CymruPrifysgol BangorPrifysgol Abertawe
© Anthony Evans/Amgueddfa Cymru
Mae Prifysgolion Abertawe a Bangor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi bod ysgoloriaeth ymchwil sydd wedi’i hariannu’n llawn ar gael o fis Hydref 2026 ymlaen o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.
Roedd y mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru yn glymblaid o wahanol fuddiannau. Roedd yn cynnwys aelodau o'r gymuned Ddu a chynrychiolwyr grwpiau ffydd a'r mudiadau Llafur a Chymraeg. Ond roedd ei weithgareddau hefyd yn ei ddwyn i wrthdaro â sefydliadau ac unigolion ar draws sbectrwm cymdeithas Cymru. Datgelodd ymatebion i'r ymgyrch raniadau dwfn o fewn cymdeithas Cymru ynghylch hil, gwleidyddiaeth ryngwladol a dulliau protestio ac ymgyrchu. Bydd y PhD hwn yn archwilio cyfansoddiad, strategaethau ac effaith y mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru. Bydd yn ymchwilio i'r hyn y mae'n ei ddatgelu am gymdeithas ehangach Cymru a gwleidyddiaeth gwrth-apartheid yn y DU.
Bydd y prosiect yn cael ei oruchwylio a'i gynnal gan bartneriaeth rhwng prifysgolion Bangor ac Abertawe, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC). Bydd hyn yn rhoi mynediad i'r myfyriwr at ystod eang o adnoddau, arbenigedd, hyfforddiant a chefnogaeth. Mae Amgueddfa Cymru a'r LlGC ill dau yn dal casgliadau unigryw sy'n gysylltiedig â'r mudiad a bydd y myfyriwr yn helpu'r ddau sefydliad i ddehongli a chyflwyno eu casgliadau. Bydd cyfnod olaf yr ymchwil yn cynnwys gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ymchwil yn cael eu lledaenu. Bydd hyn yn cynnwys creu adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion ar y cyd ag adrannau dysgu LlGC ac Amgueddfa Cymru. O'r herwydd, mae'r ysgoloriaeth ymchwil yn gyfle i fyfyriwr nid yn unig wneud cyfraniad sylweddol at hanes Cymru ond hefyd i ddysgu sgiliau amhrisiadwy mewn lleoliadau proffesiynol a fydd yn cefnogi eu dyheadau gyrfa yn y dyfodol.
Mae’r dyfarniad AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y gyfradd gartref amser llawn UKRI ar gyfer graddau doethuriaeth a chynhaliaeth lawn i bob myfyriwr.. Yr Isafswm Cyflog Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2025/26 yw £21,805 (yn codi yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn.
Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe ond bydd disgwyl ir ymgeisydd llwyddiannus dreulio amser yno ac yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn anghenrheidiol ar gyfer yr ysgoloriaeth hon. Ni fyddai'r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff yn Amgueddfa Cymru na Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cau: Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm BST ar ddydd Gwener 5 Mehefin.
Sut i wneud cais: Gwnewch gais arlein i'r prosiect hwn yma.