Diogelu a datblygu cof y genedl am Y Wladfa

Ysgoloriaeth Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) yr AHRC

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / Prifysgol Abertawe

Llun sepia yn dangos rhes o bobl ar gefn ceffylau y tu allan i adeilad gwellt, gyda thestun Cymraeg mewn llawysgrifen ar y chwith uchaf.

Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod ysgoloriaeth ymchwil sydd wedi’i hariannu’n llawn ar gael o fis Hydref 2026 ymlaen o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.

Wedi’i sefydlu yn 1865 ym Mhatagonia’r Ariannin, cafodd Y Wladfa ei sefydlu i ddiogelu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i ffwrdd o ddylanwad Prydain. Mae gan LlGC y casgliad mwyaf cyflawn sy’n dogfennu ei hanes. Er hynny, hyd yn hyn dim ond o fewn y naratifau traddodiadol, sy’n canolbwyntio ar Gymru, ei wydnwch diwylliannol a’i goroesiad ieithyddol y mae’r deunyddiau hyn wedi’u hystyried, heb fawr o ystyriaeth i gyd-destun ehangach yr Ariannin na phobloedd brodorol Patagonia.

Bydd y prosiect hwn yn archwilio ffyrdd o ddiogelu a datblygu cof y genedl am Y Wladfa yn yr 21ain ganrif trwy ymgysylltu yn helaeth â chasgliadau perthnasol i alluogi dehongli ac ail-ddehongli. Dan oruchwyliaeth a chynhaliaeth partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd cyfle i ailymweld â daliadau i adnabod bylchau a deunyddiau sydd heb eu harchwilio’n ddigonol, ystyried safbwyntiau amgen, gwella hygyrchedd ac adlewyrchu amrywiaeth ehangach o leisiau a phrofiadau. Bydd allbynnau yn cynnwys adnoddau dysgu effeithiol, arddangosfeydd digidol a deunyddiau clyweledol. Y tu hwnt i hyrwyddo ysgolheictod hanesyddol Cymru, mae’r ysgoloriaeth ymchwil hwn yn cynnig datblygiad proffesiynol hollbwysig fydd yn arfogi ymgeiswyr ar gyfer eu nodau gyrfa hir dymor.

Mae’r dyfarniad AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y gyfradd gartref amser llawn UKRI ar gyfer graddau doethuriaeth a chynhaliaeth lawn i bob myfyriwr. Yr Isafswm Cyflog Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2025/26 yw £21,805 (yn codi yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn.

Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r ysgoloriaeth ymchwil yn agored i unrhyw un gyda chefndir yn y Dyniaethau. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Ni fyddai’r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyddiad cau: Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12.59pm BST ar ddydd Gwener 5 Mehefin 2026.

Sut i wneud cais: Gwnewch gais arlein i'r prosiect hwn yma.