Gweithdy Amgueddfa

Geiriau ac Adenydd gyda Thomas Docherty

Dewch i glywed yr hanes cyffrous am y dyn cyntaf i gynllunio ac adeiladu awyren yng Nghymru.

Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol gyda Thomas Docherty, awdur a darlunydd lleol o fri, a fydd yn eich ysbrydoli i ddilyn eich trywydd creadigol llawn dychymyg eich hun.

 

Ar gael o Ionawr 2024

 

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol. 

 

Ieithoedd, Llythrenedd a Chyfathrebu 

Mae llenyddiaeth yn tanio'r dychymyg ac yn ysbrydoli dychymyg. 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600