Adnoddau Dysgu

Adnodd Addysg y Ddôl Drefol

Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad â’r Amgueddfa ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau.

Mae’r cynnwys yn berthnasol hefyd i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Llun o ddôl blodau gwyllt y tu allan i'r Amgueddfa

Y ddôl drefol yn yr amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk

Adnoddau