Llwybrau Amgueddfa
Adnodd Saesneg i ddysgwyr i'w ddefnyddio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Beth am ddefnyddio ein hadnoddau addysg ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) i'ch helpu chi i archwilio’r amgueddfa, ei horielau a'i chasgliadau?
Gall ein hadnoddau eich helpu chi i fwynhau eich ymweliad wrth ymarfer eich Saesneg.
Mae croeso i chi lawrlwytho ac argraffu copïau a dod â nhw gyda chi.
Defnyddiwch yr adnoddau i ategu ymweliadau hunan-dywys yn yr amgueddfa, ac yn yr ystafell ddosbarth, cyn ac ar ôl ymweld â ni. Mae adnoddau i athrawon ar gael i'w lawrlwytho hefyd ar gyfer pob adnodd addysg.
Cwricwlwm
ESOL: Cyn Mynediad. Mynediad 1, 2 a 3. Lefel 1 a 2.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk