Gweithdy Amgueddfa

Arferion Nadolig

Ymunwch â ni ym mis Rhagfyr am ein gweithdy Nadolig.

Gwrandewch ar stori Ted yr Arth wrth iddo ddarganfod hanes traddodiadau ac arferion Nadolig y Cymry.

Yn dilyn y stori, bydd cyfle i’r plant greu cannwyll gŵyr i’w chadw.

Uchafswm o 30 disgybl.

Nodwch: Mae'r sesiwn yma ar gael ym mis Rhagfyr.

Hyd: 45 munud
Dyddiadau: Rhagfyr 2 - 13 2024
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Stori Nadolig

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk