Taith Google Expeditions Big Pit

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Dyma ni’n cydweithio gydag adran Celfyddydau a Diwylliant Google i greu taith rithwir danddaearol yn Big Pit. Mae’r daith bellach yn un o atyniadau byd cyffrous Google Expeditions.

Beth yw Google Expeditions? I ddilyn y rhithdaith, gallwch chi lawrlwytho app Google Expeditions ar gyfer llechen neu ffôn am ddim  o Google Play neu’r App Store. Gall athrawon arwain taith o’r llechen tra bod y disgyblion yn anturio ar eu ffonau.  Drwy osod y ffôn mewn syllwr gall yr anturwyr weld golygfeydd 360° a delweddau 3D.

Beth sydd i’w weld ar rithdaith Big Pit? Bydd y rhithdaith yn rhoi blas o grwydro danddaear yn Big Pit ac yn agor y drysau i bobl na allai gael mynediad fel arall. Gall dim guro’r profiad go iawn wrth gwrs, a’r ffordd orau i gael blas o’r lofa yw i ymweld â Big Pit.