Gweithdy Rhithiol

Ystafell Ddosbarth Rufeinig (Gweithdy Rhithiol)

Darganfod ac Archwilio

Dysgwch sut beth oedd bod yn ddisgybl yn oes y Rhufeiniaid! Archwiliwch y gwahaniaethau rhwng addysg i fechgyn a merched, a gweld eitemau anhygoel o gasgliad Amgueddfa Cymru gafodd eu defnyddio gan y Rhufeiniaid eu hun – o gownteri ar gyfer chwarae gemau i lechi cwyr!

Cymryd Rhan

Dysgwch fel disgybl Rhufeinig! Cewch flas ar ddiwrnod ysgol yn oes y Rhufeiniaid drwy wrando ar eich ‘Grammaticus’ (athro Rhufeinig) a chymryd rhan mewn gwersi llythrennedd, mathemateg, addysg grefyddol a daearyddiaeth. 

Am y Sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng addysg i fechgyn a merched yn oes y Rhufeiniaid. Mae’r gwahaniaethau hyn yn cael eu dangos yn elfen chwarae rôl y sesiwn, a chaiff disgyblion eu hannog i rannu sut maen nhw’n teimlo am yr anghydraddoldeb hwn yn ystod y sesiwn drafod ar y diwedd.

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!

Hyd: 1 awr

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Oed: 8-11

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk