Cynefin - Cymru ni
Oes mwy i Gymru na glo a chennin Pedr? Dewch i drafod yn oriel Cymru...! Cewch ymchwilio ymhellach a darganfod sut mae hanes, diwylliant a chymdeithas wedi siapio ein cynefin.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Mae cymdeithasau dynol yn gymleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.
Iechyd a Lles
Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk