Gweithdy Amgueddfa

Ŵyna yn Sain Ffagan

Wyddech chi fod Sain Ffagan hefyd yn fferm weithredol? Bob mis Mawrth mae defaid Sain Ffagan yn wyna, a hoffem gynnig cyfle i ysgolion gwrdd â’n bugail.

Mi fydd bwcio eich ysgol ar y sesiwn yma yn eich galluogi i:

  • ymweld â fferm Llwyn yr Eos a chwrdd â’n bugail, 
  • gweld unrhyw ŵyn sydd wedi eu geni, 
  • dysgu mwy am ddefaid ag ŵyn yr Amgueddfa, a 
  • phosibilrwydd o weld oen yn cael ei eni yn ystod eich ymweliad.
Dyddiadau: 2-13 Mawrth 2026
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Llun o ddafad dau oen du
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk