Adnoddau Dysgu

Minecraft eich Amgueddfa!

Adnodd i blant 6-11 oed

Y her: Defnyddiwch eich dychymyg i adeiladu amgueddfa ddelfrydol yn Minecraft. Adeiladwch adeilad mawreddog a’i lenwi gyda’ch hoff wrthrychau. Gallwch chi ddewis unrhyw wrthrych o’n saith amgueddfa – deinosor, ceiniog Rufeinig neu dŷ o Sain Ffagan!

Rhannwch eich gwaith gyda ni ar Twitter @Amgueddfa_Learn

Enillodd y gweithgaredd hwn wobr Amgueddfa Cyfeillgar i Deuluoedd Plant mewn Amgueddfeydd, am y categori Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau.

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom gynnal cystadleuaeth o'r enw Minecraft Eich Amgueddfa. Gweler ein tudalen blog i weld cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac uchafbwyntiau'r ceisiadau buddugol.

Minecraft

Adnoddau