Project

Protest gyda Ysgol Uwchradd Caerdydd

Yn 2017 daeth athrawon o Ysgol Uwchradd Caerdydd atom i drafod y posibilrwydd o gydweithio ar broject Celfyddydau Mynegiannol. Disgyblion blwyddyn 10 oedd wedi dewis astudio Celf, Cerddoriaeth neu Ddrama TGAU oedd y myfyrwyr i gymryd rhan yn y project. Y syniad oedd i'r disgyblion ymweld â Sain Ffagan, cael cyflwyniad i agwedd o’r casgliadau cyn ymateb yn greadigol yn ôl yn yr ysgol.

Y thema dewiswyd ar gyfer y project oedd ‘Protest’. Daeth y myfyrwyr am sgwrs gan guradur ar nifer o eitemau yng nghasgliad yr amgueddfa sy'n gysylltiedig â'r thema. Roedd y rhain yn cynnwys gwrthrychau yn ymwneud â Therfysgoedd Merched Beca, protestiadau’r Iaith Gymraeg, streiciau’r glöwr, ymgyrch y bleidlais i fenywod, ynghyd ag eraill.

Ar ôl dychwelyd i'r ysgol, paratôdd y myfyrwyr waith mewn ymateb i'r casgliadau, cyn dychwelyd i Sain Ffagan i arddangos eu gwaith celf, a pherfformio yn yr Atriwm. Roedd staff yr amgueddfa, ymwelwyr a rhieni’r myfyrwyr i gyd wedi mwynhau gweld gwaith y disgyblion. Dychwelodd Ysgol Uwchradd Caerdydd eto'r flwyddyn ganlynol i ailadrodd y project gyda grŵp newydd o ddisgyblion.

Mae hwn yn fodel hoffem ei ddilyn gyda mwy o ysgolion. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni i drafod syniadau!

Disgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd yn perfformio yn Sain Ffagan

Perfformiad Cardiff High

Ymweliad Cardiff High

Wal yr atriwm gyda baneri

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk