Creu a Gwneud

Darlunio Tirlun Cyflym

Gan ddefnyddio ffenestr fel gwrthrych, ewch ati i arbrofi gyda marciau, a chreu darluniau tirlun cyflym 2 munud.

Bydd angen:

Ffenestr!

Darnau o bapur neu gerdyn. Does dim angen defnyddio papur plaen gwyn. Weithiau, mae hi’n hawsach i ddarlunio yn fwy creadigol a rhydd gan weithio ar ddarn o bapur patrymog neu lliw.

Arbrofwch gyda’r ddamcaniaeth yma!

Carden weledol

Deunyddiau i greu marciau. Fe ddefnyddion ni pen ffelt brown.

Cyfarwyddiadau:

1. Crëwch garden weledol. Bydd angen plygu plyg lawr canol darn o bapur neu garden, wedyn torri mas sgwâr o’r canol (unrhyw faint).

2. Dodwch y garden weledol yn erbyn eich ffenestr. Symudwch hi o gwmpas, nes i chi ffeindio golygfa ddiddorol.

3. Beth allech chi ei weld tu fas? Beth ydych chi’n sylwi? Sut mae’r olygfa yn wneud i chi deimlo?

Adnoddau