Gweithgaredd Addysg

Bowlen Papur Pasg

Ewch ati i greu bowlen papur wedi’i ysbrydoli gan ein bowlen C13, i addurno eich bwrdd Pasg.

Bydd angen:

  • Papur scrap neu bapur wedi’i ailgylchu
  • Hen bowlen
  • Siswrn
  • PVA neu glud crefft Ewch ati i greu bowlen papur wedi’i ysbrydoli gan ein bowlen C13, i addurno eich bwrdd Pasg
  • Deunyddiau i addurno eich bowlen orffenedig. Fe ddefnyddion ni paent, ond gallech chi ddefnyddio pens marcer neu pens ffelt.

Cyfarwyddiadau:

1. Rhwygwch y papur i mewn i ddarnau bach.

2. Dodwch haenen o ddarnau papur tu fewn eich bowlen, gan sicrhau ei fod wedi’i orchuddio yn gyfan gwbl. Dyma fydd yr haenen allanol.

3. Os oes angen cymorth i’r papur glynu wrth y bowlen, defnyddiwch ychydig bach o ddŵr. Peidiwch ddefnyddio glud yn ystod y cam yma.

4. Nawr gawn ni ddechrau ychwanegi fwy o haenau papur, gan gludo bob haenen i’r llall.

5. Ar ôl iddo sychu, tynnwch y bowel papur mas, a thacluswch yr ymyl i greu llinell lyfn.

6. Mae hi nawr yn amser addurno!

7. Ar ol i chi orffen eich cynllun Pasg, ychwanegwch un haenen arall o glud, i’w selio a’i gadarnhau.

8. Adeiladwch yr haenen gyntaf ychydig yn dalach nag ochr y bowlen. Bydd hi’n haws i dynnu’r bowlen papur mas ar y diwedd.

Adnoddau

Cyffredinol

Bowlen Papur Pasg