Creu a Gwneud

Creu Sgwâr Atgofion

Mae Amgueddfa Cymru a Gofal Profedigaeth Cruse wedi dod at ei gilydd i lansio project newydd er mwyn helpu pobl gyda’u galar a chreu cofeb hirhoedlog sy’n llawn atgofion o’r rhai a gollwyd yng nghyfnod Covid-19.

Bydd yr Amgueddfa a Gofal Profedigaeth Cruse yn gwahodd y rhai sy’n galaru am anwyliaid i greu darn o glytwaith wedi’i addurno sy’n adlewyrchu eu hatgofion a’u teimladau. Yna, bydd y darnau hyn yn cael eu huno i greu clytwaith o atgofion a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod diwrnodau cefnogaeth Gofal Profedigaeth Cruse er mwyn helpu eraill i fynegi eu teimladau a rhannu eu hatgofion.

Peidiwch â phoeni am beidio bod yn grefftus iawn pan mae’n dod at greu eich sgwâr atgofion eich hunan. Does dim angen i chi hyd yn oed fod yn berchen ar nodwydd ac edau i gymryd rhan a chreu darn o glytwaith er cof am rywun annwyl. Dyma ganllaw syml o ffyrdd y gallwch chi gyfrannu.

Enghraifft o sgwâr atgofion

Adnoddau