Gweithgaredd Addysg
Paent Fflwfflyd
Crëwch baent fflwfflyd gydag ein rysáit syml!
Bydd angen:
- ½ cwpan blawd plaen
- ½ cwpan PVA neu glud crefft
- ½ cwpan ewyn eillio (nid gel)
- Paent, 1 lliw. Tua 1 llwyaid
- Bag plastig zip lock, neu fag eisin
- Bowlen cymysgu
Cyfarwyddiadau:
1) Rhowch y blawd, glud ac ewyn eillio yn y bowlen.
2) Cymysgwch yn dda ac ychwanegwch eich paent.
3) Pan rydych yn hapus gyda’r lliw, rhowch y cymysgedd i mewn i’r bag plastig.
4) Gwasgwch y cymysgedd i waelod y bag.
5) Yn un o’r corneli gwaelod, torrwch gylch bach.
6) Pibellwch y paent are eich papur! Bydd y paent yn aros yn fflwfflyd ac yn sychu’n galed. TIP: os yw’r paent yn rhy drwchus i ddosbarthu, ychwanegwch ychydig o ddŵr.