Gweithdy Amgueddfa

Meddwlgarwch a Chreadigwrydd

Ymunwch â ni am dro meddylgar o amgylch Sain Ffagan.

Gall eich dosbarth gymryd ysbrydoliaeth o olygfeydd, synau ag aroglau Sain Ffagan i ysgrifennu pennill. Sut mae gerddi hyfryd Sain Ffagan yn gwneud i chi deimlo?

Nodwch bod y gweithdy yma yn un awyr agored. Gwisgwch dillad ag esgidiau addas i’r tywydd os gwelwch yn dda.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Gerddi Castell Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk

Adnoddau