Am ddim
Yn yr ysgol
Gwledda a Chaethwasiaeth yn oes y Rhufeiniad: Gweithdy Rhithiol
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru


Bl. 3&4 yn mwynhau eu gwers rithwir 'Gwledda a Chaethwasiaeth Rhufeinig'! Ysgol Gynradd Gymunedol Crickhowell Trwy Twitter.
Mae Rhufeiniaid cyfoethog yn enwog am eu partion! Darganfyddwch y bwyd rhyfedd a bendigedig roedden nhw'n ei fwyta, fel ymennydd y paun a llygod wedi'u stwffio. Dysgwch am fywydau'r caethweision oedd yn cefnogi y bywyd godidog yma. Bydd cyfle i astudio’r casgliadau sydd ynghlwm â’r pwnc yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cyrmu.
I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3546 neu ebost learning.romans@museumwales.ac.uk
Adnoddau:
- eLyfr: Gwledda a Chaethwasiaeth yn Oes y Rhufeiniaid | National Museum Wales (amgueddfa.cymru)
- Nodiadau athrawon: Gwledda a Chaethwasiaeth yn oes y Rhufeiniad
- Gweithgaredd Dosbarth - Caethwasiaeth ddoe a heddiw.
- Paratoi am Ymweliadau Rhithwir.
Hyd: 1 awr
Tâl:
I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Cwricwlwm
Cwricwlwm i Gymru: Dyniaethau
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Oed: 8-11
Amcanion dysgu:
- Darganfod gwledd Rufeinig o safbwynt gwestai mewn parti Rhufeinig, a chaethwas Rhufeinig.
- Adolygu’r ffyrdd y caiff y digwyddiadau a’r profiadau hyn eu gweld, eu dehongli a’u cynrychioli.
- Ystyried bywyd bob-dydd a chyfartaledd ar gyfer gwahanol bobl adeg y Rhufeiniaid a heddiw.
- Ystyried beth allwn ni ei ddysgu o gyfnod y Rhufeiniaid i wella cymdeithas heddiw.